Syr William Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:46, 17 Hydref 2019 gan 78.144.88.152 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Syr William Glynn (1566-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd oes y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Mab ydoedd i Thomas Glynn, Glynllifon a'i wraig Catherine, merch ac etifeddes John ap Richard ap Morris, Plas yng Nglyn, Llanfwrog, Môn. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfon, gyda'i ystad yn bennaf ym mhlwyfi Llandwrog, Llanllyfni a Chlynnog Fawr. Trwy ei fam fe etifeddodd diroedd yn Llanfwrog, Môn, hefyd.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf â Jane merch John Griffith o Blas Mawr, Caernarfon a Threfarthen, Ynys Môn a'i wraig Margaret, merch Rhys Thomas o Goed Alun (Coed Helen)[1] Cawsant blant niferus, meibion Thomas Glynn, John Glynn, Richard, William a Threfor Glynn (Na wyddys fawr amdanynt), Edmund Glynn, a merched Grace, a briododd Owen Wynn, Maesoglan; Margaret a briododd Rowland Meredydd, Traphwll; merch anhysbys a briododd un Richard Griffith; a Cordelia a briododd Hugh Meredydd, Mynachdy Gwyn.[2]

Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal, a Môn yn arbennig. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597 ac eto ym 1618. Roedd ar feinciau ynadol Môn a Sir Gaernarfon, ac arolygydd coed brenhinol Sir Gaernarfon..Ym 1606, oherwydd ei wasanaeth milwrol yn Iwerddon fe gafodd ei wneud yn farchog yn Nulyn.[3]

Roedd yn ddyn dysgedig, wedi ei addysgu yn xxx. Fo, mae'n debyg, oedd yr olaf o'i linach i fod yn noddwr o bwys i'r beirdd.


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.125
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3
  3. ‘’Y Bywgraffiadur Cymreig’’ (Llundain, 1953), t.262