Syr William Glynn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:02, 14 Hydref 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Syr William Glynn (-1619) oedd penteulu Glynniaid Glynllifon yn niwedd oes y Tuduriaid a dechrau'r 17g. Roedd ymysg prif dirfeddianwyr Sir Gaernarfon, gyda'i ystad yn bennaf ym mhlwyfi Llandwrog, Llanllyfni a Chlynnog Fawr.

Bu'n briod ddwywaith, yn gyntaf â Jane merch John Griffith o Blas Mawr, Caernarfon a Threfarthen, Ynys Môn a'i wraig Margaret, merch Rhys Thomas o Goed Alun (Coed Helen)[1] Cawsant blant niferus, meibion Thomas Glynn, Sarjent John Glynne, Richard, William a Threfor Glynn (Na wyddys fawr amdanynt), Edmund Glynn, a merched Grace, a briododd Owen Wynn, Maesoglan; Margaret a briododd Rowland Meredydd, Traphwll; merch anhysbys a briododd un Richard Griffith; a Cordelia a briododd Hugh Meredydd, Mynachdy Gwyn.[2]

Yn ogystal â'i ddiddordebau teuluol ac ystadol, bu'n ddylanwadol ym myd cyhoeddus a gwleidyddol yr ardal. Bu'n uchel siryf Môn ym 1597.

  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.125
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), tt.172-3