Cwm Gwared

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:41, 9 Medi 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cwm Gwara yw'r cwm cul y mae Afon Hen yn rhedeg ar ei hyd. Mae'r cwm yn ymestyn o ystlys [[Mynydd Gurn Goch] ac yn rhedeg rhwng y mynydd hwnnw a Mynydd Bwlch Mawr i lawr i bentref Gurn Goch. Mae fferm o'r un enw ar ochr ogleddol y cwm. Cwm coediog ydyw, wedi ei blannu gan Ystad Glynllifon mae'n debyg. Bu'r fferm a'r cwm yn eiddo i [[Ystad Lleuar[]] nes i honno gael ei gwerthu i Glynllifon.

Mae mapiau'n tueddu galw'r cwm yn Gwm Chwara ac mae hen weithredoedd yn sillafu'r enw fel Cwm Gwared.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau