Afon Weddus

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:39, 22 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Afon Weddus yn afon fach sydd yn rhedeg i'r môr ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw wedi ei golli ar dafod-leferydd, ond roedd yn cael ei ddefnyddio yn niwedd y 18g pan godwyd Pont Weddus dros "Afon Weddus" ym mhlwyf Clynnog gan awdurdodau'r sir ym 1777. Mae'n debyg mai afonig fechan yw Afon Weddus, gan fod y bont wedi costio £100, a'r un flwyddyn talwyd £200 am godi pont dros Afon Llifon, sydd, ei hun, yn afon weddol fach.[1] Y tebygrwydd yw mai'r afon sydd yn rhedeg trwy bentref Clynnog, heibio i Dŷ Capel, ydyw; mae hi'n troi tua'r gogledd wedyn, heibio Tŷ Coch, ac yn ymarllwys i'r mor nid nepell o Faen Dylan.

Ceir cyfeiriadau hen iawn at yr afon, fodd bynnag. Mae'n debyg mai "Moweddus" neu "Myweddus" oedd yr enw'n wreiddiol, ac mae rhai yn awgrymu mai enw gwreiddiol Afon Rhydybeirion ydyw. Ceir cyfeiriadau hefyd at yr enw yn y Record of Carnarvon, ac yn llenyddiaeth gynnar Gymraeg.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd, XPlansB/169
  2. Gwybodaeth oddi wrth Mrs Marian Elias Roberts