Gorsaf reilffordd Waun-fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:40, 7 Tachwedd 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Er i orsaf Waun-fawr arfer bod ym mhlwyf Llanwnda ac felly yn Uwchgwyrfai, roedd yn gwasanaethu pentref yn Isgwyrfai. Saif ar lan yr Afon Gwyrfai, ac fe'i adeiladwyd gan cwmni Rheilffyrdd Cul Gogledd Cymru a'i hagor ym 1877. Dyma oedd (ac yw) y man cyntaf ar y lein ar ôl cychwyn o Gyffordd Dinas lle gall trenau groesi,gan fod y brif lein yn sengl (sef ar gyfero trenau sy'n teithio i'r ddau gyfeiriad). Roedd y platfform ar ffurf ynys rhwng y ddwy set o gledrau yn y lŵp. Chwalwyd olion yr adeilad gwreiddiol wrth ail-adeiladu'r lein ar ddechrau'r ganrif hon. Mae'r bont droed hefyd yn nodwedd newydd.

Roedd un seidin nwyddau gyferbyn â'r platfform, ac ychydig i'r de, trôdd cangen neu seidin fer i ffwrdd i gyfeiriad Chwarel Ithfaen Dudley. rheolid traffig yn yr orsaf gan signalau, er i'r rhain beidio â bodoli rywdro cyn 1920.