Brynaerau
Mae Brynaerau yn dreflan ac yn ardal ym mhlwyf Clynnog Fawr, nid nepell o bentref Pontlyfni. Ceir yno gapel ynghyd â mynwent yr ardal, Ysgol Brynaerau sydd yn gwasanaethu'r ardal i gyd gan gynnwys, bellach, pentref Clynnog Fawr. Daw'r enw yn wreiddiol o ffermydd Brynaerau. Nid yw'n bell o Bont-y-Cim, lle cafwyd Efail-y-Cim.
Mae plasty gerllaw, Bron-dirion, a godwyd yn y 19g., ac a fu'n gartref dros dro i'r anturiaethwr ifanc Edgar Christian.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma