Plas Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:25, 1 Medi 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Plas Tryfan neu'r Tryfan Mawr yn dŷ neu blasty ar gyrrion plwyfi Llandwrog a Llanwnda ymmhlwyf LLandwrog, nid nepell o bentrefan fodern Maestryfan. Bu'n gartref i deulu Grifffiths, ac roedd gwraig y plas yn y 1650au, Dorti (neu Dorothy) Griffiths, er yn aelod o'r bonedd, yn uchel ei chloch ac mewn trafferth gyda'r awdurdodau am ffraeo.

Roedd ystad y Tryfan Mawr yn cynnwys Tryfan ei hun a'r ffermydd islaw'r plwyf, yn cynnwys Dolydd-irion yn y Dolydd. Bu'n gartref i deulu o feddygon yn y 19g -20g a sonnir o hyd am "Ddoctor Tryfan". Dywedir fod disgynnydd olaf y teulu wedi bod yn feddyg tua Wrecsam.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma