Afon Garth

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:57, 7 Gorffennaf 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Afon fechan sy'n rhedeg i mewn i Lyn Nantlle Uchaf yw Afon Garth. Dyma'r afon sy'n llifo dan Pont Baladeulyn yng nghanol pentref Nantlle. Mae'n codi gerllaw Parc ym mhen draw Y Fron, ac yn llifo i lawr dyffryn bach bas heibio i ffermydd Caeronwy Isaf a Phen-y-garth.