Ystad Plas Llanfair

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:45, 13 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Plas Llanfair yn sefyll ym mhlwyf Llanfair Is-gaer, nid nepell o gylchfan Griffiths Crosin a Phlas Menai. Cartref ydoedd i deulu Griffiths, hen deulu dylanwadol iawn am ganrifoedd. Er bod y rhan fwyaf o'r ystad ym mhlwyfi Llanddeiniolen a Llanfair Is-gaer roedd gan y teulu diroedd mewn plwyfi eraill. Erbyn y 19g, roeddent yn perchen ar nifer o ffermydd ym mhlwyf Llandwrog o gwmpas gwaelod pentref diweddarach Y Groeslon, yn cynnwys y tir lle saif Tafarn Pen Nionyn heddiw; hen enw swyddogol y darfarn oedd y Llanfair Arms.

Yn ogystal â safle'r dafarn, 'roedd gan yr ystad ffermydd Tyddyn Dafydd, Talsiencyn (neu Dalar Siencyn), Cae'r Tŷ (hen dyddyn a'i dir o bobtu'r rheilffordd yng nghyffiniau Mynwent Bryn'rodyn, a Chefn Eithin ym Methesda Bach. Roeddd yr ystad hefyd yn berchen ar dŷ tlodion a safai tua'r fan lle mae Lôn Newydd yn cychwyn ar allt Y Groeslon. Yn sgil cau Morfa Dinlle cafodd yr ystad pedwar cae, sef Parc, nid nepell o'r maes awyr presennol.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Map Degwm Llandwrog, 1839