John Gwilym Jones
Dramodydd a darlithydd Cymraeg oedd Dr. John Gwilym Jones (1904-1988).
Roedd yn frodor o’r Groeslon, ac yn ysgrifennydd llwyddiannus. Cyhoeddodd storïau a nofelau megis Y Goeden Eirin, a dramâu adnabyddus fel Y Tad a’r Mab a Ac Eto Nid Myfi. Roedd yn athro yn Llundain am gyfnod, cyn cael swydd fel cynhyrchydd drama gyda’r BBC. Aeth wedyn ymlaen i ddarlithio Cymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
Cyfeiriadau
Erthygl am Dr. John Gwilym Jones ar Wicipedia
Cymdeithas Hanes Y Groeslon, Hanes y Groeslon (2000)