Tafarn y Mount Pleasant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:49, 10 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd tafarn y Mount Pleasant yn sefyll ar ochr y ffordd fawr ger y drofa am Ros-isaf ym mhlwyf Llanwnda. Roedd yn adeilad hynod, a'r bar y tu fewn gyda ffenestr hanner crwm rhwng y bar a'r fynedfa'n rhoi argraff o adeilad hynafol. Codwyd y dafarn rywbryd ar ôl 1840[1] - cyn hynny, y dafarn oedd yr adeilad ar gornel y drofa i bentrefan Dinas a fu wedyn yn ficerdy'r plwyf - mae'r lloc neu ddarn pori anifeiliaid gyferbyn â'r adeilad hwnnw'n dal i dystio i'w hen hanes, gan fod hynny'n nodwedd i lawer i hen dafarn ochr lôn ar adeg pan oedd teithio'n araf a cheffylau a theithwyr angen lluniaeth. Ar y Map Degwm (1840), dangosir fod nifer o gaeau'n perthyn i'r dafarn, yn cynnwys yr un ar draws y ffordd i'r hen dafarn, a'r cae lle codwyd yr adeilad newydd ymhen amser.

Yr oedd y tafarnwr, dyn o'r enw William Williams, yn cadw'r dafarn tua 1835-c.1854[2]. Roedd am ymestyn ei fusnes trwy rentu tai eraill a'u gosod fel tai tafarn yn yr ardal.[3]

Hen enw'r Mount Pleasant ar lafar gwlad oedd y "Ring" - enw cyffredin ar dafarnau. Llurguniad o "Yr Inn" yw'r enw ""Ring". Mae'n debyg i'r dafarn gael ei defnyddio'n fynych fel canolfan i'r plwyf: er enghraifft, trefnwyd cyfarfodydd i gasglu'r arian degwm yno ym 1843.[4]

Caewyd y Mount Pleasant fel tafarn tua'r flwyddyn 2003 ac fe'i gwerthwyd i deulu a drôdd yr adeilad yn fwyty Bangali. Ail-ffurfiwyd tu mewn i'r adeilad gan y perchnogion newydd a chollwyd yr holl nodweddion hynafol. Caewyd y bwyty tua 2014, ac mae wedi ei ddymchwel. Disgwylir (2018) i'r safle gael ei ddefnyddio i godi tai.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Mae'r dafarn yn cael ei dangos yn ei hen leoliad ar y Map Degwm
  2. Archifdy Caernarfon, XD2/6564
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/18129, 18354
  4. XD2/20308