Pont Cwellyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:54, 9 Mai 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pont Cwellyn bresennol yn bont ar ffurf sarn gyda thri bwa dros hyd o 77 llath. Mae'n sefyll ar yr hen ffin rhwng plwyfi Llanwnda, Beddgelert a Betws Garmon lle mae afonydd Bron-y-fedw ac Afon Cwellyn yn llifo i mewn i ben uchaf Llyn Cwellyn, ar y briffordd o Gaernarfon i Feddgelert (yr A4085 bresennol). Cafodd ei thrwsio a'i gwella ym 1829-30 gan y contractwyr Lewis Williams a John Parry, seiri maen. Roedd y gwaith yn cynnwys sythu darn o Afon Bron-y-fedw fel y byddai'r ddwy afon yn llifo o dan y bont.

Roedd y bont oedd yno'n wreiddiol ond yn croesi Afon Cwellyn, gan adael yr afon arall (mae'n debyg) i beri achos llifogydd ar adegau o storm. Fer ymddengys iddi gael ei chodi neu ei hailgodi tua 1800 (a barnu oddi wrth arddull y planiau a'r ysgrifen ar y dogfennau sydd ar gael). Yr adeiladydd y pryd hynny oedd Lewis Ellis a'i bartneriaid i ddyluniad John Hughes, saer melinau.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd XPlansB/76