Seidin Tudor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:04, 19 Hydref 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Seidin Tudor yn seidin breifat filltir yr ochr Pen-y-groes i orsaf Y Groeslon. Ei hunig ddiben oedd gwasanaethu gwaith llechi Inigo Jones. Dim ond trenau a redai i gyfeiriad Pen-y-groes oedd yn gallu gollwng neu godi tryciau o'r seidin. Roedd llidiart yn cau'r seidin oddi wrth y brif lein. Roedd craen yn cael ei ddefnyddio i godi slabiau llechi oddi ar y tryciau; mae ei olion i'w weld hyd heddiw o Lon Eifion yn iard Inigo JOnes.