Y Bontnewydd
Pentref rhwng tref Caernarfon a Dinas yw'r Bontnewydd. Trwy ganol y pentref ceir y ffordd A487, sy'n arwain at Bwllheli a Porthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a godwyd tua 1810 roddodd yr enw i'r pentref. Mae'r enw yn cyfeirio at bont flaenorol dros Afon Gwyrfai. Sonnir am lle a elwid the new brige ger Caernarfon ym 1552.[1] Mae'r bont bresennol yn dyddio o amser creu'r ffordd dyrpeg trwy'r ardal neu'n fuan wedyn.
Dim ond ychydig o dai teras, melin, bythynnod a ffermydd oedd yno ar un cyfnod, gyda nifer o dafarndai wedi eu dotio ar hyd y ffordd fawr. Yn ystod y 20g, codwyd dwy ystâd o dai cyngor a phedair o rai preifat, i gyd ar ochr Isgwyrfai i'r afon. Mae'n debygol fod llawer yn defnyddio'r Bontnewydd fel man aros tra roeddynt yn teithio o Ben Llŷn tua Chaernarfon.
Roedd y Bontnewydd yn cael ei rannu fel pentref rhwng plwyfi Llanbeblig (trefgordd Castellmai) a Llanwnda tan ddegawd olaf y 20g pan unwyd y ddwy ochr i ffurfio cymuned newydd yn cynnwys y pentref, Rhos Bach a phlwyf Llanfaglan, ynghyd â'r darn o blwyf Llanwnda yn cynnwys Plas Dinas hyd at Ffrwd Cae Du.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Archifdy Gwynedd, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwater, Ebrill 1552, t.5