Pont Newydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:28, 5 Ebrill 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont Newydd yw enw'r bont a saif ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai rhwng hen derfynnau plwyfi Llanwnda a Llanbeblig. Mae'n croesi Afon Gwyrfai, yr ail bont ffordd o'r môr, a drosti rhêd y ffordd A487, sy'n arwain i Borthmadog. Serch yr enw, nid y bont bresennol a roddodd yr enw i'r pentref sy'n sefyll y ddau ben iddi, sef Y Bontnewydd. Mae'r enw yn cyfeirio at y bont flaenorol dros Afon Gwyrfai a oedd yno, mae'n debyg, cyn y 17g pan godwyd Plas-y-bont gerllaw.Yn wir, mae sôn am fan a elwid "y bont newydd" ("the new brige) mor gynnar â 1552.[1] Mae'r bont bresennol yn dyddio o 1840, ac fe'i gwnaed o'r newydd ar ôl dymchwel yr hen bont.

Roedd cost yr holl waith yn uchel ar y pryd, sef £454, oherwydd yr angen i chwalu'r hen bont, darparu ffordd newydd dros dro tra oedd y gwaith o adeiladu'n mynd rhagddo, cryfhau rhai tai cyfagos dros dro, a chwalu beudy o eiddo John Williams, cigydd. Lewis Williams, saer maen o Gaernarfon oedd y contractor. Ni aeth y gwaith rhagddo'n ddidrafferth a rhaid oedd i'r ynadon a syrfewr y sir ymholi ym 1841 i gamgymeriadau a arweiniodd ar ran o'r gwaith cychwynnol chwalu.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, Llyfr Amodrwymau'r Llys Chwarter Ebrill 1552, t.5
  2. Archifdy Gwynedd, XPlansB/40