Y Foryd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:57, 17 Ebrill 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Foryd yw'r enw ar fae neu aber rhwng Trwyn Dinlle a gweddill y tir mawr. Yr enw a arddelir (yn llai aml y dyddiau hyn!) yw Llanfaglan Harbour, gan fod Eglwys Llanfaglan yn Isgwyrfai ar y lan bellaf. Mae Afon Gwyrfai, Afon Carrog ac Afon Foryd yn ymarllwys i Afon Menai trwy'r Foryd. Arferai fod ffordd ar adegau o lanw isel ar draws y Foryd, ac mae hon yn cael ei dangos ar hen fapiau, ond mae wedi hen ddiflannu. Ger geg y Foryd mae harbwr bach Caer Belan sydd yn dal i gael ei ddefnyddio gan hwylwyr amser hamdden. Ar y lan gyferbyn ceir ardal a elwir yn Foryd Bach a chedwir ambell i gwch yno hefyd, er bod y Foryd mor fas fel arfer fel nad oes modd cyrraedd y Foryd Bach ond ar adegau o lanw uchel; dichon mewn dyddiau gynt fod yn harbwr bychain ar gyfer dadlwytho calch.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma