Bwlch Mawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:13, 25 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Bwlch Mawr yn fryn ar gyrion Uwchgwyrfai uwchben Bwlchderwin a Chapel Uchaf. Ei uchder yw 509 metr neu 1670 troedfedd uwchben y môr. Mae'n ail o ran uchder yn y casgliad o fynyddoedd sydd â'i gopa uchaf a'r Gurn Ddu sydd yn 522 metr o uchder. Dichon fod yr enw'n deillio o bresenoldeb pant neu fwlch rhwng y copa ei hun a thir uchel arall gerllaw (dim ond 5 troedfedd yn is, sydd yn creu bwlch amlwg iawn o bell.

Ar ochr ddwyreiniol Bwlch Mawr, uwchben Hengwm, ceir pant o'r enw Y Seler Ddu, sydd yn darddle Afon Dwyfach.

Ffurfiwyd y bryn o graig igneaidd o'r cyfnod Palaeosoig.

Gwaith mwyngloddio

Mae'r mapiau Ordnans o ddechrau'r 20g yn dangos dau o weithfeydd manganîs ar lethrau dwyreiniol Bwlch Mawr. Mor gynnar â 1888, fodd bynnag, roeddent wedi cau.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma