Pont-y-Cim

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:37, 27 Rhagfyr 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Pont hynafol, ger Pontlyfni yw Pont-y-Cim.

Cafodd ei chodi yn 1612, a chafodd ei hariannu gan Catherine Bulkeley am £20. Mae llythyr oddi wrthi at yr ynadon wedi goroesi ymysg papurau'r Llys Chwarter. Roedd yn cynnig talu am bont yn lle'r rhyd oedd yno cyn hynny. Awgrymai rhai ei bod wedi ei hariannu ar ôl i’w chariad foddi yn afon Llyfni oddi tani. Gellir gweld plac ar y bont yn nodi enw Catherine a'r flwyddyn 1612.

Yn 1750, gorchmynnodd y Llys Chwarter yng Nghaernarfon iddi gael ei hadnewyddu a’i lledu i sicrhau fod ceffyl a throl yn gallu mynd trosti.

Ar ôl llifogydd yn 1935 cafodd ei thrin eto a’i lleihau o ran lled i’w maint gwreiddiol. Credir iddi fod yn un o’r pontydd hynaf (a lleiaf) ym Mhrydain sydd yn agored i drafnidiaeth.

Ffynonellau

Cofnod i'r lle hwn ar wefan British Listed Buildings

Cofnod o'r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol .