Owen Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:52, 14 Ionawr 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Owen Roberts a'i rieni

Roedd Owen Roberts, cerflunydd, yn weithiwr chwarel llechi yn ardal Y Fron. Gyrrai American Devil, sef math o beiriant tyllu a chodi cerrig. Roedd yr awdures Kate Roberts yn gyfnither iddo.

Yn ôl ei deulu, roedd ganddo sied yn yr ardd ac yn y fan honno fe gynhyrchodd gerfluniau cain ar slabiau mawr o lechi. Bu i un o'r rhain ar destun 'Owain Glyndŵr' lwyddo i ddod yn gydradd gyntaf mewn cystadleuaeth yn Eisteddfod Genedlaethol Machynlleth, 1937, er i'r cerflun hwnnw gael ei werthu ac wedi 'diflannu' ers iddo gael ei arddangos ynystod y 1980au. Mae enghreifftiau o'i waith i'w gweld yng Nghanolfan y Fron.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Cymru Fyw, [1], cyhoeddwyd 11.01.19; cyrchwyd 14.01.19