Owen Wynne Jones (Glasynys)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:52, 12 Tachwedd 2018 gan 92.3.7.44 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
llun John Thomas, LLGC

Yr oedd Owen Wynne Jones, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Glasynys (4 Mawrth 1828 – 4 Ebrill 1870), yn fardd, yn awdur ac yn athro ysgol, cyn iddo gael ei ordeinio i'r Eglwys. Cafodd ei eni'n Nhŷ'n y Ffrwd, Rhostryfan yn un o bum plentyn ac yn 10 oed aeth i weithio yn y chwarel. Yn y man fe adawodd y chwarel, ac yn 17 oed fynd i Ysgol gynradd Bron-y-foel fel ddisgybl-athro, cyn symud wedyn i Goleg Hyfforddi caernarfon (coleg hyfforddi eglwysig) a throi at ddysgu. Bu'n athro yn ysgolion Clynnog Fawr hyd 1855, ac wedyn yn Llanfachreth a Beddgelert. O fod yn athro, trôdd at wasanaethu ynyr Eglwys, gan gael ei ordeinio ym 1860. Bu'n gurad yn Llangristiolus a Llanfaethlu, ac wedyn ym Mhontlotyn, Sir Forgannwg. Symudodd wedyn i Gasnewydd i gyd-olygu, gydag Islwyn, y papur newydd Y Glorian. Yn fuan wedyn symudodd i Borthmadog ac wedyn i Dywyn (Meirionnydd) lle bu farw, ond fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Llandwrog.[1]

Fe'i gofir heddiw fel awdur rhyddiaith, er iddo ysgrifennu a chyhoeddi cryn dipyn o farddoniaeth hefyd. Ysgrifennai at y wasg leol dan ffugenw "Salmon Llwyd o ben Moel Tryfan"., yn benodol pan oedd yn ysgrifennau am fywyd gwerin y wlad a stareon llên gwerin. Yn hyn o beth, roedd yn rywfaint o arloeswr. Dichon mai y llyfr a olygwyd gan Saunders Lewis, Straeon Glasynys[2] ac efallai tudalenni Cymru Fu yw'r unig ffynonellau o'i waith sydd bellach yn weddol hawdd gael gafael arnynt.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.472
  2. (Clwb Llyfrau Cymraeg, 1943)