Chwarel Greenarvon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:25, 26 Tachwedd 2018 gan Robingoch (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi weddol fach oedd Chwarel Greenarvon (SH 469508). Chwqarel un twll ydoedd. Mae olion y chwarel i'r de o fferm Llwydcoed Bach nid nepell o Afon Crychddwr ar gyrion Nasareth, ychydig i'r gogledd o dai Pen-y-chwarel ar ffordd Pont Lloc.

Defnyddiai dramffordd fach o fewn y chwarel ac roedd melin lechi yno i drin cynnyrch y chwarel. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr (1888) yn dangos chwarel yno, gyda thramffordd ar hyd y domen. Mae map Ordnans dyddiedig 1900 yn ei dangos fel hen chwarel wedi cau, ond mae map a addaswyd ym 1914 yn dangos adeiladau newydd ac awgrymir ei bod ar waith.[1] Roedd hi'n dal i weithredu ym 1920, gan fod adroddiad rheolwr Amalgamated Slate Association Quarries sy'n cynnwys y chwarel hon ar gael.[2] Daeth cwmni Greenarvon Slate Quarry Cyf. i ben ym 1938.[3]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth a gyweinwyd oddi ar fapiau Ordnans.
  2. Archifdy Gwynedd, XD94/39.
  3. London Gazette, 25 Tachwedd 1938, t.7441.