Chwarel Greenarvon
Chwarel lechi weddol fach oedd Chwarel Greenarvon. Chwqarel un twll ydoedd. Mae olion y chwarel i'r de o fferm Llwydcoed Bach nid nepell o Afon Crychddwr ar gyrion Nasareth, ychydig i'r gogledd o dai Pen-y-chwarel ar ffordd Pont Lloc.
Defnyddiai dramffordd fach o fewn y chwarel ac roedd melin lechi yno i drin cynnyrch y chwarel. Mae'r map Ordnans cyntaf ar raddfa fawr (1888) yn dangos chwarel yno, gyda thramffordd ar hyd y domen. Mae map Ordnans dyddiedig 1900 yn ei dangos fel hen chwarel wedi cau, ond mae map a addaswyd ym 1914 yn dangos adeiladau newydd ac awgrymir ei bod ar waith.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth a gyweinwyd oddi ar fapiau Ordnans.