W.A. Darbishire

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:03, 5 Tachwedd 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd W. A. Darbishire, (m.1916) yn byw am gyfnod hir o'i oes ym Mhlas Baladeulyn, Nantlle. Prynodd ef a'i gwmni Chwarel Pen-yr-orsedd ym 1863, a gweithiodd yno fel y Rheolwr-Gyfarwyddwr weddill ei yrfa.[1] Ymgeisiodd (yn aflwyddiannus) am swydd prif reolwr Chwarel y Penrhyn, Bethesda, yn 1885 a phe byddai wedi derbyn y swydd, dichon y byddai hanes y chwarel honno a'r streic fawr (1900-03) yn bur wahanol. Mae'n debyg iddo golli ei gyfle gan iddo fod yn gredwr mewn caniatáu i'r gweithwyr rannu yn elw'r chwarel. Roedd hefyd yn nodi yn ei gais ei fod â chrap go lew ar "Gymraeg y chwarel".[2]

Roedd yn arloeswr yn y defnydd o beiriannau yn y chwarel, ac ym 1900 cododd weithdy a ddefnyddai trydan yn lle pwer dwr a stêm.[3]

Yr oedd wedi troi mewn cylchoedd pwysig yn ystod ei oes . Bu yn Gynghorydd Sir ac yn ustus heddwch am flynyddoedd, a chafodd yr anrhydedd o fod yn Faer Caernarfon ddwywaith. Yr oedd llesiant Dyffryn Nantlle a'r cylchoedd yn agos iawn at ei galon yn ôl ffynonellau'r cyfnod, a gwnaeth ei ran yn helaeth iawn at geisio hyrwyddo masnach ymhob cylch. Er ei fod i raddau pell wedi torri ei gysylltiad â'r dyffryn ar ol symud i Gaernarfon, byddai yn ymwelydd cyson â'r chwarel a'r ardal. Gwnaeth waith pwysig gydag addyag yn mhlwyf Llanllyfni, ac efe a'i briod gyfododd safle'r gweinyddesau lleol. Bu farw yn ei gartref olaf, Pen-y-bryn, Caernarfon, 8 Awst 1916, a'i gladdu ym mynwent Llanbeblig.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Jean Lindsay, A History of the North Wales Slate Industry,(Newton Abbot, 1974), t. 328-9.
  2. Jean Lindsay, The Great Strike, ((Newton Abbot, 1987), t.31
  3. David Gwyn, Llechi Cymru: Archeoleg a Hanes, (Aberystwyth, 2015), t.162.
  4. Y Llan, 18 Awst 1916