Chwarel Coedmadog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:15, 22 Hydref 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Coedmadog, neu fel y gelwir weithiau Gloddfa Glai yn Nhal-y-sarn. Twll agored oedd hi.

Agorwyd y chwarel hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar dir ystâd Coedmadog, wrth ymyl Cloddfa'r Coed. Yn 1883 roedd 135 o weithwyr yn gyflogedig yno, ac roeddynt yn cynhyrchu 2,879 tunnell o lechi. Codwyd tramffordd fewnol erbyn 1877, gydag injan stêm De Winton erbyn y diwedd. Ddaru'r chwarel gau yn 1908-9, er bod gwaith ar raddfa fechan yno hyd 1920. Roedd cyswllt yma hefyd gyda Rheilffordd Nantlle, ond o 1881 ymlaen roedd cyswllt uniongyrchol gyda'r LNWR - yr unig chwarel i wneud hyn yn yr ardal.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)