Chwarel Moel Tryfan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:55, 10 Rhagfyr 2017 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi ym mhlwyf Llandwrog oedd Chwarel Moel Tryfan. Lleolir hi ar lethrau Moel Tryfan, ychydig yn is na pentref Rhosgadfan. Dechreuodd fel cloddfa bychan iawn, cyn cael ei ddatblygu yn arw tua’r 1880au, yn dilyn datblygiad y rheilffyrdd yn ardal Dyffryn Nantlle. Erbyn 1882 roedd 81 dyn yn cynhyrchu oddeutu 1880 tunnell o lechi yno.

Erbyn 1898, roedd 236 o ddynion yn gyflogedig yno. Roedd yn cynych yn cael ei gario oddi yno drwy dwnnel i fan y lle roedd melinau enfawr yn eu hollti, rhywbeth anarferol i’r ardal hwn.

Diddymwyd y rheilffordd yno erbyn 1966, a defnyddiwyd loriau ‘Matador’ i ddanfon y cynnyrch. Daeth y gweithio yma i ben yn yr 1970au.

Ffynonellau

Cofnod o’r lle hwn ar wefan y Comisiwn Brenhinol

Gwefan Swyddogol Nantlle