Robert Hughes, Uwchlaw'rffynnon
Ganwyd Robert Hughes ar 25 Mawrth 1811 ym Modgared, Rhostryfan, plwyf Llanwnda, cartref ei fam, Catrin Owen. Bu ei dad yn ffermio mewn tri lle ym mhlwyf Llandwrog- Bryngwyn, Llwyn-y-gwalch a Thyddyn Tudur. Ym 1824 crëwyd Parc Glynllifon gan y meistr tir, yr Arglwydd Newborough a chwalwyd Tyddyn Tudur. Tra'n byw yno bu Robert Hughes yn ddisgybl yn ysgol Dafydd Ddu Eryri (1759-1822). Symudodd y teulu i fferm Moelfre Fawr yn Llanaelhaearn. Daeth R.H., wedi tyfu'n ddyn, yn enwog i gylch eang fel ffermwr Uwchlaw'r Ffynnon, Llanaelhaearn, yn un o sefydlwyr a gweinidog achos y Babell (M.C.) yn y pentref, ac yn bregethwr teithiol gyda rhai fel John Jones, Tal-y-sarn, ac eraill. Wedi pasio'r hanner cant oed daeth yn arlunydd o'r math a elwir yn 'arlunydd naïf'.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones : Gŵr Hynod Uwchlaw'r Ffynnon, passim.