Carl Iwan Clowes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:35, 18 Awst 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Symudodd y meddyg, y Dr Carl Iwan Clowes i Lanaelhaearn ym 1970 i weithio fel unig feddyg teulu’r ardal. Cafodd ei fagu ym Manceinion er i’w fam, a oedd yn Gymraes, hanu o Ogledd Cymru ac yng Ngogledd Cymru dreuliodd lawer o’i amser pan yn ifanc. Mae ganddo ddiddordeb arbennig ym maes iechyd cyhoeddus, a gweithiodd mewn sawl swydd bwysig yn y maes hwnnw.

Serch hynny, mae’n fwy adnabyddus yng Nghymru fel sylfaenydd Canolfan Iaith Genedlaethol Nant Gwrtheyrn yn Llithfaen ym 1978. Cyn hynny, ym 1974, roedd wedi gweld effeithiau diboblogi ym Mhen Llŷn ac yn Llanaelhaearn yn benodol, ac fe sefydlodd Cymdeithas y Pentrefwyr yn y pentref. O hynny fe ddeilliodd Antur Aelhaearn, ymddiriedolaeth gymunedol dan ei gadeiryddiaeth o. Fo hefyd sefydlodd y Fforwm Iaith Genedlaethol ym 1985 a ddaeth â 26 o gyrff a mudiadau at ei gilydd i ymgyrchu am ddeddf iaith newydd

Mae o â diddordebau ehangach hefyd, ac ym 1985 fe sefydlodd Dolen Cymru, y cysylltiad rhwng Cymru a Lesotho, sydd yn anelu at gynnal perthynas rhwng y ddwy wlad. Ef yw Conswl swyddogol Lesotho yng Nghymru a chafodd ei anrhydeddu gan Frenin Lesotho am ei waith yn dod â’r dwy wlad i berthynas unigryw.

Am ei waith amrywiol cafodd ei dderbyn i’r Orsedd.

Mae dau o’i feibion, Cian Ciaran a Dafydd Ieuan, yn aelodau o’r Super Furry Animals.

Cyfeiriadau