Melin Bodellog
Mae'n amlwg mai rhan o adnoddau trefgordd Bodellog oedd Melin Bodellog, a safai, mae'n debyg, ar Afon Gwyrfai. Hen enw Plas-y-bont yn ogystal ag enw'r drefgordd oedd Bodellog, yn ôl yr hanesydd Gilbert Williams, ac efallai nid oedd safle'r felin yn bell o'r tŷ hwnnw. Ym 1608 roedd y felin werth £60 y flwyddyn i'w deiliaid, ac fe gyfrifid fel melin yr Arglwydd, sef (erbyn hynny) Brenin Lloegr. Mae'n debyg felly bod hen hanes i'r felin yn ymestyn yn ôl i oes y Tywysogion.
Enw arall ar Melin Bodellog oedd Melin-y-groes, yn ôl dogfennau llys o 1627, sydd hefyd yn dweud mai at Felin Bodellog yr oedd rhaid i drigolion Llanwnda, Llanfaglan a threfgordd Bodellog ei hun fynd i gael malu eu grawn. Yr un set o ddogfennau'n nodi hefyd fod y felin hon hefyd yn cael ei galw ar lafar gwlad yn 'Felin y Bont Newydd'. Gwraidd y gynnen yn yr achos llys oedd y ffaith fod Richard Evans, Elernion a pherchennog Tyddyn y Bont-faen wedi codi melin newydd yno, sef Melin y Bont-faen, a'r felin honno wedi effeithio i'r fath raddau ar fusnes Melin Bodellog fel nad oedd hi'n talu i'w chadw i fynd. Yn fwy na hynny, roedd y ffrwd felin a wnaed i dywys dŵr yr afon i Felin y Bont-faen wedi effeithio'n dirfawr ar y bysgodfa oedd ynghlwm wrth felin Bodellog. Dadleuwyd beth bynnag fod Melin y Bont-faen wedi ei chodi yn lle hen felin arall, sef Melin Cae Mawr tua milltir yn uwch i fyny'r afon na Melin Bodellog. Yr oedd felin arall wedi bod yn y cyffiniau ers tro felly, ac ni ddylai'r felin newydd effeithio dim ar Melin Bodellog.
Beth bynnag am hyn oll, mae Melin Bodellog a'i safle hyd yn oed, wedi diflannu o'r tir ac o gof gwlad. Efallai iddi gau oherwydd effaith melin newydd y Bont-faen - neu efallai iddi gau pan adeiladodd Melin Wyrfai tua dechrau'r 19g.[1]
Cyfeiriadau
- ↑ W.Gilbert Williams, Arfon y Dyddiau Gynt, (Caernarfon, d.d.), tt.115-136. Yno ceir holl fanylion dyrys yr achos llys.