Arfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:34, 15 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arfon oedd enw'r cantref a gynhwysai gymydau Uwchgwyrfai ac Isgwyrfai a thiroedd yr Esgob o gwmpas Bangor a hynny trwy Oes y Tywysogion a hyd 1536 pan ddileuwyd Cyfraith Sifil Hywel Dda (yn ei ffurf hwyr) gan gyfraith Lloegr. O hynny ymlaen trinid Arfon fel hwndrwd, sef rhaniad gweinyddol o Sir Gaernarfon at rai dibenion er, at ei gilydd, cedwid at y cwmwd fel yr uned ar gyfer penodi uwch-gwnstabliaid, codi ae;oadu rheithgorau mawr ac ati.

Defnyddiwyd yr enw'n gyffredinol i ddisgrifio ardal trwy'r ganrifoedd ond dim ond ym 1974, pan ffurfiwyd Cyngor Bwrdeistref Arfon yr ailddefnyddiwyd yr enw i ddynodi rhanbarth llywodraeth leol. Ers 1996, pan ddaeth y cyngor dosbarth i ben, mae Arfon wedi cael ei ddefnyddio fel enw ar un o dri raniad gweinyddol Sir Gwynedd - er i Arfon ers 1974 bellach gynnwys ardaloedd y tu draw i ffin Isgwyrfai, megis Abergwyngregin a Dyffryn Ogwen, a heb gynnwys rhannau o hen blwyfi Clynnog Fawr a Llanllyfni a dim o blwyf Llanaelhaearn.