Efail Dolydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:05, 4 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Efail Dolydd yn un o'r tai ac adeiladau cyntaf i'w codi yn yr hyn sydd bellach yn bentref Dolydd, ym mhlwyf Llanwnda.

Mae'r tŷ yn dal i sefyll, gyferbyn â'r tŷ a elwir Y Bwthyn, lle gynt yr oedd prif dollborth y ffordd dyrpeg rhwng Caernarfon a Dyffyn Nantlle. Dyma safle strategol bwysig, fel y gallai cwsmeriaid o bobtu'r giât doll gyrraedd y busnes i sicrhau gwasanaeth y gof.

Yn naturiol ddigon, canolbwyntiai'r efail ar wasanaethu'r gymuned amaethyddol, ac fe geir llawer o lidiardau hyd heddiw sydd yn nodi eu bod wedi cael eu gwneud gan Dolydd Smithy.

Ym 1889, yn ôl yr hanes yn y cyfarwyddiadur masnach ar gyfer Llanwnda, William R Roberts oedd y gof, ac fe gadwai siop yno hefyd.[1]

Yn ystod ail hanner y 20g, ac ar ôl i'r busnes symud i adeilad newydd lle mae Modurdy Dolydd heddiw, agorwyd caffi yn yr adeilad (The Old Smithy Café) gan Albanes o'r enw Mrs McDonald a'i ferch. Lluniwyd llwyn yn y maes parcio i fod ar siâp eliffant, a oedd yn nodwedd o'r ardal am flynyddoedd. Hyd heddiw, disgrifir llefydd yn y cyffiniau fel rhywle neu'i gilydd 'ger yr eliffant'! Cwmni diogelwch sydd yn gweithredu o'r safle erbyn hyn.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfarwyddiadur Masnach Sutton ar gyfer 1889-90 (o dan 'Llanwnda')