Deddfau'r Tlodion yn Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:20, 11 Mai 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ymysg y dogfennau, sy'n rhan o gasgliad enfawr yr Archifdy yng Nghaernarfon, mae llawer yn ymwneud â'r gwaith o gynnal y tlodion yn unol â Deddfau'r Tlodion ar draws y sir trwy'r pum ganrif ddiwethaf, gan gynnwys llawer o sôn am y gwaith hwn yn Uwchgwyrfai. [1][2]

Cynnal y Tlodion cyn dyddiau Deddf y Tlodion

Cefndir a datblygiadau cynnar

Yn y ddeuddegfed bennod o Efengyl Ioan, gallwn ddarllen yr hanes am Fair, chwaer Lasarus, yn eneinio traed Iesu â phersawr drudfawr. Fe wnaeth Jwdas Iscariot, a fyddai'n bradychu Iesu, leisio'n ddi-flewyn ar dafod ei wrthwynebiad chwyrn i'r weithred symbolaidd honno, gan ddweud y gallasai'r persawr hwnnw fod wedi cael ei werthu am 300 denarï (cryn swm o arian bryd hynny) a'r arian hwnnw ei roi i'r tlodion. Ymateb Iesu oedd datgan:

"Y mae'r tlodion gyda chwi bob amser, ond nid wyf fi gyda chwi bob amser."

sydd yn debyg i'r hyn a ddywedodd Syr George Nicholls, a fu unwaith yn Ysgrifennydd i Fwrdd Cyfraith y Tlodion ac a fu hefyd yn Gomisiynydd Cyfraith y Tlodion, yn y gyfrol gyntaf o'r ddwy a gyhoeddodd yn adrodd hanes Ddeddf y Tlodion Seisnig:

"Ym mhob gwlad, ac ym mhob cyflwr o gymdeithas, mae amddifadrwydd wedi bodoli, ac o natur pethau, bydd yn bodoli'n dragywydd."

ac fel pe byddai am bwysleisio'i sylw, mae'n datgan ymhellach:

..."ac ar gyfer y ganran berthnasol y mae'r tlodion yn rhan o'r boblogaeth gyfan, a'r modd y caiff dosbarth y tlodion hyn eu trafod, y bydd cyflwr cyffredinol y cyfanswm nid o leiaf yn dibynnu."

Mae'n saff i ni awgrymu, felly, bod sefydlu Deddf y Tlodion, ar unrhyw ffurf, neu weithdrefn trwy'r hon y bydd rhyw fath o gymorth yn cael ei roi i'r tlodion, yn gorfod cael ei ystyried fel arwydd o wareiddiad sy'n datblygu, ac yn arwydd o ddynoldeb cadarnhaol. Bydd unrhyw gynnydd yn cael ei wneud, er lles daioni'n gyffredinol.

Heddiw, gyda'r holl ddatblygiadau sydd wedi digwydd i gynyddu ein gwybodaeth am hen wareiddiadau'r byd, yr ydym mewn safle llawer gwell nag ymchwilwyr y gorffennol i ddirnad a deall yr hyn a wyddom, er enghraifft, mai yng nghyfnod yr Hen Destament, roedd yr Israeliaid a'u cymdogion yn y Dwyrain Canol, yn darparu rhywfaint o gymorth i'r tlodion. Yn Llyfr Deuteronomium, pumed llyfr yn yr Hen Destament gallwn ddarllen:

"Pan fyddi wedi medi dy gynhaeaf ond wedi anghofio ysgub yn y maes, paid â throi'n ôl i'w chyrchu ; gad hi yno ar gyfer y dieithryn, yr amddifad a'r weddw, er mwyn i'r ARGLWYDD dy Dduw dy fendithio yn holl waith dy ddwylo."  (Deut. 24. 19)

Hen egwyddor, felly, gyda grym crefydd y tu ol iddo, yw meddwl am y tlodion a gweithredu mewn ffordd y gellir fod o gymorth iddynt. Ac yma, yng Nghymru, roedd un o'n brenhinoedd, yr un a oedd, o bosib, yn bencampwr ar gyfansoddi cyfreithiau, Hywel Dda (c.880 - 950 OC) wedi gorchymyn bod y teulu, yn ei ffurf estynedig - at y perthnasau hynny, hyd y drydedd a'r pedwerydd cefnder, yn cael ei wneud yn gyfrifol am les yr uned deuluol. Yr oedd rhywbeth cyffelyb yn digwydd hefyd yn Lloegr Eingl-sacsonaidd, tua'r un cyfnod, yn achos teuluoedd, dan ddeddfau a basiwyd yn ystod teyrnasiaeth y Brenin Athelstan (924 OC) a'r Brenin Cnut (1017 OC). Bwriad y cyfan o'r deddfau hyn oedd gwella amodau byw i drigolion y wlad, nid yn unig trwy blismona'r carfanau hynny oedd yn creu diflastod ac anghydfodau, fel y drwgweithredwyr crwydrol hynny oedd yn boen i gymunedau, ond hefyd trwy wneud y teulu yma yng Nghymru a'r penteulu yn Lloegr, yn gyfrifol am y digartref. Yn ychwanegol roedd gofyn i'r rhai oedd yn berchen ar eiddo i ddarparu am anghenion y tlodion dan eu gofal, oedd heb ddim. A chawn ein hatgoffa gan hanes fel y gall adegau cythryblus, fel dyfodiad y Pla a methiant cnydau, gynyddu'n enfawr yr achosion o dlodi i'r fath raddau fel bo rheidrwydd i rywbeth gael ei wneud er mwyn osgoi trychineb cymdeithasol dybryd.

Datblygiadau yn Lloegr

Gan fod y deddfau mwyaf grymus i gynnal y tlodion wedi eu poasio wedi i Gymru ddod o dan reolaeth Senedd Lloegr, rhaid son sm ddatblygiadau dros y ffin yn ystod y Canol oesoedd er mwyn deall cefndir deddfau diweddarach.

Y cyntaf o'r brenhinoedd yn Lloegr i roi sylw i gyflwr y tlodion oedd Rhisiart II. Yn y flwyddyn 1388, pasiwyd y 12fed Statud trwy ei orchymyn, mewn ymateb i'r prinder affwysol o weithwyr amaethyddol oedd ar gael i drin y tir o achos y Pla Du. Cyrhaeddodd y Pla difrodus hwnnw borthladd Bryste yn y flwyddyn 1348, pan oedd Edward III yn teyrnasu, a lledaenodd yn gyflym dros y wlad gyfan, gan ysgubo ymaith, yn ddidrugaredd, un o bob tri o boblogaeth Cymru a Lloegr; poblogaeth oedd bryd hynny yn ddwy filiwn a hanner mewn nifer. Un canlyniad amlwg iawn i'r trychineb hwnnw oedd bod nifer fawr o grefftwyr o gefn gwlad ynghyd â labrwyr iddyn nhw wedi symud i'r trefi i gael gwaith. Roedd y deddfau a basiwyd yn ystod cyfnod Edward III wedi ffafrio masnach yn y trefi yn fwy nag yng nghefn gwlad.

Felly, gyda phrinder gweithwyr nid yw'n syndod bod cryn anfodlondeb a theimladau cryf am fwy o hawliau wedi amlygu eu hunain ymhlith y werin bobl. Yn fuan dechreuodd yr anfodlonrwydd hwn droi yn wrthryfel. Yr enw a roddwyd ar yr helynt yw 'Gwrthryfel y Werin', a'r enw a gysylltir yn bennaf â'r anghydfod yw Wat Tyler. Roedd y gwrthryfelwyr gwerinol hyn yn ceisio rhoi diwedd ar daeogaeth, oedd yn rhan annatod o'r drefn ffiwdal, a oedd wedi bodoli ers cyfnod y 'goncwest Normanaidd' yn y flwyddyn 1066, os nad ynghynt, a cheisio cael y meistri tir i roi gostyngiad yn y rhenti yr oedd y werin bobl yn gorfod eu talu i'w meistri am gael byw ar y tir. Byrhoedlog iawn fu'r gwrthryfel, ac ni fu'r Brenin Edward fawr o dro yn rhoi terfyn arni.

Ond fe welodd Rhisiart II, yn wyneb yr argyfwng oedd wedi dod yn sgil y Pla Du, fod yn rhaid iddo yntau ganiatáu rhai newidiadau. Ceisiodd y ddeddf hon, Deddf 1388, gan Rhisiart II gyflwyno cyflog teg i weision a gyflogid mewn hwsmonaeth, pryd, er enghraifft, y gallasai un a gyflogid fel beili, ar ben uchaf y raddfa gyflog bryd hynny, ar ddiwedd blwyddyn o waith, â ganddo un siwt o ddillad, ddisgwyl ennill cyflog o 13 swllt a 4 ceiniog, tra na allasai gyrrwr gwŷdd (aradr), ar ben isaf y raddfa, ddisgwyl ond hanner hynny, sef 7 swllt ar y mwyaf. Caniataodd y 12fed Statud hon o eiddo Rhisiart II hefyd i bobl symud o gwmpas y wlad er mwyn chwilio am waith, os oedd ganddyn nhw lythyr yn rhoi'r hawl iddyn nhw deithio i ffwrdd o'r ardal lle oedd eu 'setliad' (sef y plwyf lle'r oeddynt yn perthyn). Ond, fodd bynnag, pe byddai'r crwydriaid hyn yn dod yn dlodion analluog, ac yn cael eu darganfod yn begera o gwmpas y trefi, byddai'n ofynnol mynd â nhw'n ôl o fewn deugain diwrnod ar ôl i'r Statud gael ei gyhoeddi, neu aros yn y lle hwnnw am weddill eu dyddiau. Nid yw'r Statud yn crybwyll o gwbl yr hyn a ddigwyddai i unrhyw gymorth oedd ar gael iddyn nhw, felly yn ôl pob tebyg fe'i gadawyd ar ben eu hunain i chwilio am unrhyw elusen a chymorth yr oedden nhw'i angen i oroesi.

Harri VIII yn cyflwyno trefn gosbi lym

Pan gymerodd Harri VIII feddiant o goron Lloegr, roedd poblogaeth Cymru a Lloegr wedi cyrraedd pedair miliwn. Yn yr wythfed flwyddyn o'i deyrnasiaeth, pasiwyd deddf, gan y Brenin Harri. Yn ôl y 10fed bennod ohoni, yr oedd y brenin wedi rhoi'r gallu iddo'i hun i ddelio â phresenoldeb cynyddol o 'Eifftiaid' yn y wlad hon. Roedd y bobl hyn, sy'n adnabyddus i ni fel Sipsiwn yn cael eu disgrifio yn y Ddeddf honno fel pobl dwyllodrus, oedd yn 'cyflawni troseddau ysgeler, er mawr niwed a dihoeniad y bobl y maen nhw wedi dod i fyw yn eu mysg.' Cymer y ddeuddegfed bennod o'r un Ddeddf, fodd bynnag, olwg fanylach ar y testun o dlodi, sydd dan sylw gennym. Roedd y bennod honno'n delio â chosbi 'cardotwyr a chrwydriaid'. Yn ôl rhagair y Ddeddf 'ym mhob lle drwy'r deyrnas hon, mae crwydriaid a chardotwyr dros gyfnod hir, wedi cynyddu, ac yn ddyddiol yn parhau i gynyddu mewn niferoedd mawr ac eithafol, trwy fod yn ddiog, sydd yn fam i, a gwraidd pob drygioni' . . . ac â ymlaen i ddisgrifio sut yr oedd y cardotwyr a'r crwydriaid hyn wedi dod yn fygythiad gwirioneddol i les pobl a diogelwch y genedl.

Ac yna â'r Ddeddf yn ei blaen trwy orchymyn, fod yr Ustusiaid Heddwch, meiri, siryfion a swyddogion o gyfnod i gyfnod, yn unol â'r hyn oedd yn rhan o'u hawdurdod, i wneud archwiliadau manwl o holl dlodion oedrannus a phobl analluog sy'n byw ar gardod ac elusen' . . . 'a'u bod i gofrestru eu henwau mewn bil neu rôl wedi ei fewnoli, gydag un rhan ohoni i aros yn eu meddiant hwy, a'r rhan arall i'w ddilysu yng nghyfarfod dilynol o'r Sesiwn Chwarter, ac i aros yno dan ofal y Custos Rotularum, neu Geidwad Cofnodion y Sir.

Heblaw hynny, dywed y Ddeddf bod yn ofynnol i'r Ustusiaid baratoi llythyr i'w anfon at y 'tlodion oedrannus' a'r 'rhai analluog' yn caniatáu iddyn nhw fegera am gyfnod penodol. O gael eu dal yn begera heb y cyfryw lythyr byddai traed y truan yn cael eu gosod mewn cyffion am ddau ddiwrnod a dwy noson. Byddai'r tlotyn yn cael ei fwydo ar fara a dŵr yn unig, ac yna'n cael ei drosglwyddo i gwnstabl y cantref i'w chwipio yn y fan a'r lle neu gael ei glymu a'i osod ar drol a'i chwipio wrth gael ei lusgo o amgylch y dref. Byddai'r truan wedyn yn gorfod gwneud llw difrifol i ddychwelyd i'r lle y cafodd ei eni, ac aros yno.

Prif swyddogion Deddf y Tlodion

Un o brif nodweddion dull rheoli'r wlad y Tuduriaid oedd trosglwyddo mwy a mwy o gyfrifoldebau lleol i swyddogion lleol, a ffurfiwyd swyddi newydd yn seiliedig ar y plwyf. Ym 1536 sefydlwyd y swydd o Ynad Heddwch yng Nghymru, i gadw trefn ond hefyd i oruchwylio gweinyddiad y sir, trwy gyfrwng cyfarfodydd a elwid yn "Sesiynau Chwarter".

Yr Ynad Heddwch

Swyddog oedd hwn a fyddai'n cael ei benodi gan yr Arglwydd Ganghellor ar ran y Goron, a hyd yn ddiweddar yr oedd yn orfodol iddo fod yn berson o bwys, ac yn eithaf ariannog. Yng nghyfnod y Tuduriaid roedd yn rhaid i bob Ustus fod yn berchen tiroedd a oedd yn werth mwy nag £20 - swm mawr o arian bryd hynny. Ei brif waith oedd gofalu bod cyfraith y wlad yn cael ei gweithredu'n lleol, ond yr oedd yn cael cymorth swyddog sirol, sef "Clerc yr Heddwch" a wyddai gryn fwy nag ef am y gyfraith. Mewn llysoedd arbennig, oedd yn cael eu cynnal bob tri mis, a elwid yn "Sesiwn Chwarter" neu "Lys Chwarter" byddai dau neu fwy o'r Ustusiaid yn gwrando ar achosion am hynt a helynt crwydriaid digartref, mân droseddau, ac amrywiaeth o achosion eraill a ddygid ger eu bron gan Gwnstabl y Plwyf, neu gan y bobl eu hunain. Mae'r swydd yn parhau mewn bodolaeth, ac nid yw rhai o'r dyletswyddau a wneir gan Ustusiaid heddiw yn wahanol iawn i'r hyn a wnaethpwyd ganddynt dair canrif yn ôl.

Arolygwr y Tlodion

Cafodd y swydd hon ei ffurfio i ddechrau yn y flwyddyn 1572, ond yn Neddf y Tlodion 1601 eglurir yn fanylach ddyletswyddau'r sawl oedd yn ei gweithredu. Yr oedd yr Ustusiaid, un ôl Deddf 1601, i alw cyfarfod yn ystod y Pasg bob blwyddyn - cyfarfod a elwid "y Festri" - ac i ethol "un neu ddau o wŷr gonest o blith y plwyfolion i ofalu am anghenion y tlodion". Gwaith di-dâl oedd gwaith yr Arolygwr, ac fe roddai'r bobl eu cas ar y swydd. Blwyddyn yn unig oedd tymor arferol y gwasanaeth oedd yn ddisgwyliedig ganddynt ac ymysg y dyletswyddau, ond roedd yn ofynnol iddynt gadw cyfrifon manwl am bob ceiniog yr oeddynt yn eu gwario ar gynorthwyo'r tlodion, a'u cyflwyno gerbron y Festri bob blwyddyn. Eu cyfrifon hwy yw'r dogfennau mwyaf diddorol a welwn o'r cyfnod hwn sy'n ymwneud â'r tlodion.

Cwnstabl y Plwyf

Gweithiai'r Cwnstabl hefyd i'r Ustusiaid Heddwch, ond roedd ei swydd yn hŷn o lawer na'r cyfryw, ac yn dyddio o gyfnod y Canol Oesoedd. Fel arfer, gŵr mawr, cadarn a chryf oedd cwnstabl y plwyf, ac ni ddylid ei gysylltu o gwbl â phlismon yr oes hon. Ei brif ddyletswydd oedd ceisio cadw heddwch; ac i 'restio' crwydriaid a'u hebrwng dan orchymyn Ustus[3] i ffin y plwyf. Yno roedd cyfrifoldeb arno i'w trosglwyddo i gwnstabl arall, a fyddai yn ei dro, yn gofalu bod unrhyw grwydriaid yn cyrraedd yn ôl i'r plwyf lle'r oedd ganddynt 'setliad', fel arfer y plwyf lle cawsant eu geni. Yn ôl y Ddeddf, y plwyf hwnnw oedd, yn ôl y gyfraith, yn gyfrifol amdanynt. Yr oedd yntau, fel Arolygwr y Tlodion, yn cadw cyfrifon a chofnodion am unrhyw arian cyhoeddus a wariai wrth weinyddu ei waith fel cwnstabl. Os oedd Arolygwr Tlodion y plwyf yn swydd amhoblogaidd, roedd y swydd hon yn llai boblogaidd byth, ac fe ddelid am flwyddyn cyn ei phasio ymlaen at rywun arall fel arfer. Ceir rhestrau o gwnstabyliaid y gwahanol blwyfi ymysg papurau'r Sesiwn Chwarter.

Warden yr Eglwys

Ym mhob eglwys mae dau Warden, ac y maent, gyda'r Rheithor/Ficer, sef yr offeiriad â gofal o'r plwyf, yn gyfrifol am gadw trefn ar bob adeilad eglwysig yn y plwyf ac ar unrhyw eiddo arall sy'n perthyn i'r eglwys. Er bod y swydd ei hun yn hŷn na 1600, rhwng 1601 ac 1834, hwy, gyda'r Ustusiaid, oedd yn bennaf gyfrifol am godi treth ar y plwyfolion a rhoi cyfran o'r arian a gasglwyd drwy'r dreth honno tuag at anghenion y tlodion. Fe'i hetholwyd gan y Plwyf, yr uned o lywodraeth leol yn y cyfnod hwnnw, ac yr oeddynt yn rhan bwysig o bwyllgor y Plwyf. Swydd ddi-dâl a gwirfoddol oedd hon eto. Bryd hynny, a hyd heddiw, rhaid iddynt gyflwyno adroddiad ariannol gerbron y 'Festri'. Mae rhai o'u hadroddiadau, fel y rhai a welwn mewn dogfennau yng nghasgliad yr Archifdy, yn ddiddorol dros ben, oherwydd eu bod yn adlewyrchu'r cyfnod pryd y cawsant eu hysgrifennu.

Deddf y Tlodion, 1601

Pan ddaeth Elizabeth yn frenhines ym mis Tachwedd 1558, gosodwyd y manion a'r rhannau o'r ddeddfwriaeth a ddaeth i fodolaeth gan ei rhagflaenwyr ar sylfaen cadarnach. Pasiwyd deddfau yn ystod teyrnasiaeth Elizabeth I ym 1563 a 1576 a wnaeth roi mwy o eglurhad ar y ddeddfwriaeth flaenorol,ond y ddeddf a basiwyd yn y flwyddyn 1597 yn y ddeugeinfed flwyddyn namyn un o'i theyrnasiaeth oedd yr un a ddan-ategodd yr enwog ddeddf a basiwyd yn y drydedd flwyddyn a deugain o'i theyrnasiaeth, sef Deddf y Tlodion 1601. Fe barhaodd y gyfundrefn a ddaeth i fodolaeth trwy orchymyn Elizabeth Iaf yn y ddeddf hon am 233 o flynyddoedd ar ôl hynny.

Deddf 1601, sydd heb y rhaglith arferol, (yn gosod ger bron y camweddau oedd i'w cywiro a'r daioni oedd yn ddisgwyliedig ganddi), oedd yr un i roi cychwyn o ddifrif ar estyn cymorth i'r tlodion. Â Deddf 1601 ati'n syth i ddelio â'r busnes dan sylw. Mae'r ddeddf yn gorchymyn y bydd, ymhob plwyf yn y deyrnas, "bedwar, dri neu ddau o bennau-teuluoedd o statws sylweddol, dan law a sêl dau neu fwy o Ustusiaid Heddwch, yn cael eu henwebu, yn ystod Wythnos y Pasg, a bod y rhain, ynghyd â Wardeniaid yr Eglwys, yn dod yn Arolygwyr y Tlodion." Bydd yr arolygwyr hyn yn gyfrifol am ... "yn wythnosol neu fel arall ymhob plwyf, trwy drethiant ar bob preswyliwr, berson plwyf, ficer ac eraill ynghyd â pherchnogion tir, tai, degymau amfeddiad a rhanberchenogaeth o ddegymau, pyllau-glo a than-goedwigoedd y gellir eu gwerthu, yn y plwyf a enwir, trwy gyfansymiau cymwys o arian yn ôl eu barn," ar gyfer y bwriadau canlynol:

• ar gyfer rhoi ar waith y plant hynny y credir na fydd eu rhieni yn gallu eu cadw a'u cynnal;

• ar gyfer rhoi ar waith yr holl bobl sy'n briod neu'n ddi-briod, heb y gallu i'w cynnal ac sy'n defnyddio masnach ddyddiol a chyffredin i fyw o ddydd i ddydd;

• ar gyfer darparu cyflenwad cyfleus o lin, cywarch, gwlân, edafedd, haearn a nwyddau a deunyddiau, er mwyn rhoi'r tlodion ar waith;

• ar gyfer estyn cymorth angenrheidiol i'r cloffion, yr analluog, yr oedrannus, y deillion ac eraill yn eu plith sy'n dlawd, ac yn methu â gweithio.

Byddai'n ofynnol i'r swyddogion hyn gyfarfod, fel yr oedd y ddeddf a basiwyd yn y flwyddyn 1597 yn mynnu, o leiaf unwaith y mis, yn eglwys y plwyf, ar derfyn Gwasanaeth Dwyfol ar y Sul, i ystyried ym mha ffordd y dylid dosbarthu'r arian a gasglwyd. Rhaid oedd cadw cyfrifon. Canlyniad unrhyw gam-gyfrifo fyddai dirwy o ugain swllt (sef £1). Y Cyweirdy neu'r carchar oedd yn aros pawb oedd yn ymgeisio am gymorth gan y plwyf, pe byddid yn darganfod wedyn eu bod yn alluog i weithio. Byddai'r Cyweirdy Sirol wedi ei sefydlu'n briodol trwy Ddeddf a fyddai'n dod i rym chwe blynedd yn ddiweddarach. Bwriadwyd y lleoedd hyn i fod yn fannau lle y byddai gwaith, ar raddfeydd cyflog lleol ar gael i'r di-waith, ac yn lleoedd hefyd y gellid gorfodi'r un drefn ar y diog rai a'r crwydriaid. Yn fuan, fodd bynnag, yn ôl Sidney a Beatrice Webb, sydd wedi ysgrifennu'n helaeth ar y testun dan sylw, fe ddaeth y Cyweirdai hyn yn fwy o leoedd o gosb na lleoedd oedd yn cynnig gwaith. Ymhen dim amser fe ddaethon nhw'n ffurfiau o garchardai cymunedol yn gwbl ar wahân i Wyrcws y plwyf.

Ond fe gafodd 'darpariaeth apêl' hefyd ei sefydlu fel rhan o Ddeddf 1601, er mwyn darparu cyfle i'r tlodion hynny yr oedd yr arolygwr, am ryw reswm neu'i gilydd, wedi gwrthod eu cais am gymorth gan y plwyf. Mewn achosion o'r fath gallasai'r tlodion ddwyn eu cwynion at yr Ustusiaid Heddwch yng nghyfarfod o'r Sesiwn Chwarter.

Mae yna un darn o ddeddfwriaeth y dylid sôn amdano mewn perthynas â Deddf y Tlodion 1601. Y Ddeddf Adrefnu (Act of Settlement) yw honno, a ddaeth i rym yn y flwyddyn 1662, yn y bedwaredd flwyddyn ar ddeg o deyrnasiaeth y brenin Siarl II. Er mai'r teitl a roddwyd arni yw "Deddf er darparu cymorth gwell ar gyfer y tlodion" (An Act for the better relief of the poor), mae hi'n ymwneud ag adrefnu a symud tlodion. Roedd Deddf 1601 wedi rhagweld poblogaeth sefydlog - poblogaeth na fyddai'n symud o'i hardaloedd eu hunain, yn aros yn eu libart eu hunain, gan wneud eu peth eu hunain, a phe byddant yn mynd i drafferthion ac yn methu cynnal eu hunain, yn aros yn lleol, gan ddefnyddio'r cymorth yn y plwyf lleol oedd ar gael iddyn nhw. Yn anffodus, nid fel hyn y bu hi. Ynghyd â'r cynnydd yn y boblogaeth yn gyffredinol, a phobl yn gynyddol symudol, yn enwedig o Iwerddon, gyda'r newidiadau economaidd-gymdeithasol oedd ar droed yn y deyrnas, y ddeddf hon, 'Deddf Ardrefnu 1662', o bosib, yn fwy na dim arall, oedd yr hoelen yn arch Hen Ddeddf y Tlodion, ac yn anorfod, fe arweiniodd yn y pen draw at y newidiadau a ddaeth i rym yn y flwyddyn 1834, gyda Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion fel y brif ddeddfwriaeth a newidiodd yn gyfan gwbl y dull o ddelio ag anghenion y tlodion.

Deddf 1601 ar waith yn y cwmwd

Nid arian oedd yn cael ei roi bob amser i gynnal y tlodion, oherwydd mae Margaret Roberts o Glynnog yn cael glo, a Jane Thomas, Gwredog, druan mor dlawd, pan fu farw ym mis Tachwedd 1833, fel bo'r plwyf yn gorfod talu am arch i roi ei gweddillion a hefyd talu am ei chladdedigaeth. Dogfen yw hon o lyfr cofnodion Arolygwr y Tlodion Plwyf Llanwnda.


[[ Yn nogfen 5, eto o blwyf Llandwrog, fe welwn gofnodion diddorol am yr arian a ddosrannwyd ymhlith y tlodion yn ystod y cyfnod 1815 - 1816. Gwelwn fod un Rowland Morris yn cael arian am gadw merch dlawd, fel morwyn mae'n debyg, am gyfnod o flwyddyn. Fe barhaodd yr arferiad hwn am amser hir ar ôl y cyfnod y cafodd Deddf y Tlodion 1601 gael ei diddymu. Yn yr un ddogfen mae John Roberts, Grugan Ganol, y Groeslon, yn fodlon cadw bachgen tlawd dros gyfnod o dair blynedd am dair punt y flwyddyn, ac ar ben y swm o arian yn cael trowsus a chlocsiau ar gyfer y bachgen gan y plwyf. Cyfrifoldeb John Roberts wedyn oedd dilladu a gofalu am y bachgen. Rhaid cadw mewn cof mai ychydig iawn o gysur oedd dod i ran y plant tlawd hyn, oherwydd yr oedden nhw'n cael eu gweithio'n galed yn nhai a ffermydd y bobl oedd yn fodlon eu cymryd gan y plwyf.

Deddf Diwygio Cyfraith y Tlodion, 1834

Comisiwn Brenhinol ar y Tlodion, 1832

Roedd hi'n hen bryd i Ddeddf y Tlodion 1601 gael ei diwygio. Arweiniodd yr argyfwng gwleidyddol a ddigwyddodd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif at basio, yn y flwyddyn 1832, y gyntaf o'r Deddfau Diwygio. Er bod y ddeddf hon yn bennaf yn ymwneud â'r newidiadau oedd ar droed ynghylch pleidleisio mewn etholiadau Seneddol a hawliau, fe welir ynddi hefyd gonsesiynau cymedrol oedd yn agor drws hawliau i fwy o bobl y wlad. Daeth y newidiadau hyn i fod oherwydd bod cyfoeth yn raddol symud o gefn gwlad i'r trefi a'r dinasoedd. Dyma oes y Chwyldro, yn gymdeithasol ac yn ddiwydiannol. Amlygwyd hyn ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg gyda therfysgoedd gan weithwyr yng nghefn gwlad - malurio peiriannau a llosgi teisi gwair. Roedd ymgyrchoedd y 'Luddites' a 'Therfysgwyr Rebeca' ymysg y rhai ymhlith y boblogaeth oedd yn clochdar yn uchel am ddiwygiadau - rhai ohonynt, yn wir, oedd yn hen bryd eu cyflwyno.

Nid yn unig yr ymgodymodd llywodraeth y Chwigiaid â'r newidiadau economaidd a chymdeithasol, ond hefyd fe wnaethon nhw ildio i'r pwysau hir dymor i newid y gyfraith oedd wedi rheoli'r modd y tlodion yn derbyn cymorth. Yn y flwyddyn 1784, er enghraifft, gwariwyd dwy filiwn o bunnoedd ar gymorth i'r tlodion, ond erbyn y flwyddyn 1832, roedd y cyfanswm hwnnw wedi treblu a chyrraedd 7 miliwn o bunnoedd. Roedd codi'r arian hwn, oedd yn cael ei roi i gynorthwyo'r tlodion, wedi dod yn feichus fel y tlodion eu hunain.

Sefydlwyd Comisiwn Brenhinol ym 1832 i ymchwilio i'r modd yr oedd Deddf y Tlodion 1601 yn cael ei gweinyddu. Roedd y Ddeddf, fel yr ydym eisoes wedi darganfod, yn ddarn mawreddog o ddeddfwriaeth a oedd yn cadarnhau'r ymrwymiad ar bob plwyf yn y deyrnas, sef cyfanswm oddeutu 15,000 mewn nifer yng Nghymru a Lloegr, i estyn cymorth i'r oedrannus a'r analluog, i feithrin plant diamddiffyn i ddod i wybod am ac i arfer â gwaith ac i ddarparu gwaith ar gyfer y rhai hynny oedd yn abl i weithio, a'r rhai oedd yn methu â gwneud eu gwaith arferol.

Byddai arolygwyr y plwyf yn cael eu hethol yn flynyddol i swydd oedd yn ddigyflog a diddiolch, er mwyn casglu Treth y Tlodion a dosbarthu bara a chynhaliaeth gyffelyb a rhywfaint o arian, fel oedd yn gweddu iddyn nhw, a goruchwylio tloty'r plwyf, pe byddai un yn bod yn eu hardal hwy.

Erbyn dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, os nad yn gynharach, roedd bwriadau llesol, blaengar Deddf 1601 yn cael eu camddefnyddio a'u cam-weinyddu. Y brif broblem a oedd wrth wraidd y cam-weinyddu oedd y crwydriaid crwydrol a rhai pobl analluog oedd yn begera, mewn mannau nad oedd ganddyn nhw hawl i wneud hynny, ac a oedd, yn eu hanfod, yn peri bygythiad i'r drefn sifil a'r rhai oedd yn defnyddio'r gyfundrefn, fel y gwna pob bod dynol yn reddfol, er ei cholled. Roedd labrwrs oedd yn gallu gweithio, er enghraifft, yn credu bod ganddyn nhw hawl uniongyrchol i dderbyn cymorth gan y plwyf pe bydden nhw'n cael eu hunain yn ddi-waith. Datblygodd y syniad hwnnw o 'Gyfundrefn Speenhamland' a gafodd yr enw hwnnw ar ôl plwyf yn Swydd Berkshire. Yn y flwyddyn 1795, dan arweiniad yr Ustusiaid Heddwch, penderfynwyd rhoi ychwanegiad at gyflog gweithwyr ar raddfa oedd yn amrywio yn unol â phris bara. Rhoddodd y comisiynwyr y bai, yn annheg, ar 'Speenhamland', oherwydd nid yn y fan honno yr oedd y gyfundrefn o newid graddfeydd cyflogau wedi dechrau, ond roedd arferion o'r fath yn gyffredin ac yn gynyddol boblogaidd pan oedd cyflogau'n methu â chystadlu gyda phrisiau bwyd, oedd yn cynyddu, fel y digwyddodd yn ystod y rhyfeloedd yn erbyn Ffrainc. Nid oedd y tlotyn mewn achosion o'r fath bryd hynny'n dangos parch at ei gyflogwr, pan wyddai bod ychwanegiadau yn cael eu rhoi ar gyflogau gweithwyr eraill. Rhywbeth yn y dyfodol pell fyddai budd-daliadau fel hyn, a rhywbeth oedd yn amhosibl ei amgyffred yr adeg honno yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yr hyn a ddarganfu'r Comisiynwyr oedd bod Deddf y Tlodion yn ymyrryd â chyflogaeth yn ogystal â chyfreithiau domestig ac yn tanseilio ffyniant y genedl. Yn eu hadroddiad, a ffurfiodd y sylfaen i Ddeddf Diwygio Cyfraith y Tlodion, eu casgliad hwy oedd:

'Mae'n ymddangos i'r tlotyn bod y Llywodraeth wedi penderfynu diddymu, o'i blaid ef, ddeddfau naturiol natur; i ymddeddfu na fydd y plant yn dioddef am gamweddau eu rhieni, na'r wraig, na rhai ei gŵr, na'r gŵr rai ei wraig: na fydd neb yn colli'r gallu o dderbyn cynhaliaeth cyfforddus, beth bynnag fyddai ei segurdod, afradlonedd neu ddrygioni: yn fyr, fod y gosb, sydd wedi'r cyfan, yn gorfod cael ei dalu gan rywun, am ddiogi ac annarbodaeth, ddim yn dod i ran y sawl sy'n euog na'i 	deulu, ond ar berchnogion y tiroedd a'r tai sy'n dwyn y baich o'i ardrefniant. A allwn ni ryfeddu os yw'r annysgedig yn cael eu denu at gyfundrefn sydd â'i holl amcanion a'i holl hudoliaeth at y rhannau gwannaf yn ein natur - sy'n cynnig priodas i'r ifanc, amddiffynfa i'r pryderus, rhwyddineb i'r rhai sy'n ddiog ac anghosbedigaeth i'r afradlon.'	

Geiriau grymus! Roedd yr adroddiad yn llawn o feirniadaethau moesol. Fe gynigiodd y Comisiynwyr lawer o atebion i'r problemau, oedd yn ymddangos yn llethol iawn, ond yn eu hanfod roedden nhw'n gofyn i bob gweinyddiaeth blwyf, gyda'i botensial i fod yn aneffeithiol a llygredig, gael ei gyfnewid â chyfundrefn fwy unedig, dan reolaeth bwrdd rheoli canolog. Y tloty/wercws fyddai canolbwynt y gyfundrefn arfaethedig hon. Nid mwyach ryw gynheilydd ar gyfer pob math ar dlodion; fe fyddai'r wercws yn cael ei arolygu gan fwrdd canolog, a'i redeg gan staff o swyddogion proffesiynol. Fe fyddai gan y bwrdd y gallu i ddwyn ynghyd nifer o blwyfi er mwyn creu undeb, gyda'r undeb hwn i fynd ati'n ebrwydd i adeiladu wercws effeithiol pe byddai'r plwyfi oedd yn bod eisoes yn rhy fach i allu gwneud hynny eu hunain. Fe fyddai'r Ddeddf newydd arfaethedig yn ei gwneud yn orfodol i ffurfio undeb o blwyfi ac erbyn y flwyddyn 1838, cafodd rhyw 13,000 o blwyfi eu hymgorffori i greu 573 o undebau newydd. Dilyn y drefn genedlaethol wnaeth y plwyfi yn Uwchgwyrfai, gan ddod yn rhannau o Undeb Caernarfon, neu (yn achos Llanaelhaearn) Undeb Pwllheli.

Yn y bôn yr amcan oedd: bod pob cymorth, beth bynnag oedd, yn cael ei roi i unigolion abl neu i'w teuluoedd, oni bai fod hwnnw'n cael ei roi mewn tlotai a reolir yn effeithiol,(hynny yw, mannau lle'r oedd modd eu rhoi ar waith, yn unol ag ysbryd a bwriad Deddf 1601) a fyddai wedyn, trwy hyn, yn cael eu datgan yn anghyfreithiol.

Nid yw haneswyr, o edrych yn ôl, wedi canmol Comisiwn 1832 am eu gwaith, ac aeth rhai cyn belled â beirniadu eu dulliau o ganfod beth yn union oedd yn digwydd mewn gwirionedd, mewn perthynas ag estyn cymorth i'r tlodion yn y wlad hon. Bydd ystadegwyr yn dadlau bod adroddiad y Comisiynwyr yn ddiffygiol gan sylfaenu hynny ar y ffaith mai 10% yn unig o'r 15,000 o blwyfi a gafodd eu targedu gyda holiaduron, a wnaeth unrhyw ymdrech i'w hateb a'u dychwelyd. Roedd y ffaith hefyd eu bod wedi cystwyo 'Cyfundrefn Speenhamland' hefyd yn cael ei ystyried yn gamweddus, oherwydd ar y pryd, bod y gyfundrefn honno o roi cymorth i'r tlodion, ar drai. Roedd rhai plwyfi wedi bod yn talu rhyw fath ar lwfans teuluol i deuluoedd niferus, oedd wedi bod y dioddef o ganlyniad i'r dirwasgiad amaethyddol. Roedd yr adroddiad wedi honni mai yn nosbarth y llafurwyr gwrywaidd a'u teuluoedd roedd y mwyafrif o'r rheini oedd yn gofyn am gymorth, fodd bynnag, dim ond 20% o'r cyfanswm oedd yn perthyn i'r dosbarth hwnnw. Roedd disgwyliad oed ymhlith y gwrywod yn isel ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, felly o reidrwydd, roedd mwy o weddwon a phlant amddifad angen cymorth, ac nid oedd y cyflogau a roddid i ferched yr adeg honno yn ddigon i gynnal teulu.

Gweithredu'r Ddeddf newydd

Ond fe gafodd yr Adroddiad ei dderbyn, ac aeth y rhaglen o adeiladu tlotai rhagddi dan reoliadau’r ddeddf newydd, 'Ddeddf Diwygio Cyfraith y Tlodion'. Cafodd darpariaethau'r Ddeddf eu gweinyddu rhwng blynyddoedd 1834 ac 1847 gan dri Chomisiynydd gyda gŵr o'r enw Edwin Chadwick yn gwasanaethu fel Ysgrifennydd a staff bach o ryw 9 o glercod eraill. Gadawyd y gwaith o arolygiadau lleol yn nwylo Comisiynwyr Cynorthwyol. Nid oedd Comisiwn Deddf y Tlodion yn cael ei gynrychioli yn y Senedd, a daeth ei ddiwedd yn amlwg gyda sgandal ynghylch Wercws Andover yn y flwyddyn 1845, lle cafodd y preswylwyr tlawd eu gadael heb ymborth. Roedden nhw mor newynog fel eu bod wedi eu darganfod yn cnewian yr union esgyrn yr oeddynt i fod i'w malu'n fân ar gyfer eu defnyddio fel gwrtaith!

Cyn symud ymlaen i sôn ychydig am fywyd yn y Wercws, efallai mai dyma'r lle cymwys i grybwyll y ffaith mai o'r flwyddyn 1847 hyd at y flwyddyn 1871, roedd y gwaith o oruchwylio'r tlotai a Chyfraith y Tlodion yn gyffredinol trwy GYmru a Lloegr, yn nwylo medrus un o Sir Fôn, sef y gŵr o'r Foel, Llangeinwen, Syr Hugh Owen, a oedd ar y pryd yn Ysgrifennydd Bwrdd Cyfraith y Tlodion. Yna, o'r flwyddyn 1871 hyd at y flwyddyn 1919, rhoddwyd y gwaith hwnnw i gyrff newydd a oedd i warchod ystod o fuddiannau'r gymdeithas leol, sef y Byrddau Iechyd Leol. Am y degawd oedd yn dilyn, 1919-1929, roedd y gwaith o weinyddu'r Wercws yn gyfrifoldeb Y Weinyddiaeth Iechyd. Ym 1942, cyhoeddwyd cynllun chwyldroadol yn adroddiad William Beveridge, oedd yn cynnig gofal cymdeithasol i bawb, 'O'r Crud i'r Bedd'. Mabwysiadwyd adroddiad Beveridge gan y Llywodraeth Lafur cyntaf a etholwyd ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a'i basio'n Ddeddf. Roedd y Wladwriaeth Les wedi ei geni. O ganlyniad i'r Ddeddf honno ddod i rym, a Deddf Gwasanaeth Iechyd Aneurin Bevan, a ddaeth i rym ar ei chwt yn y flwyddyn 1948, daeth oes y Wercws i ben. Ar ôl 1948, cafodd rhai o'r tlotai eu cadw gan yr awdurdodau lleol a'u troi yn gartrefi henoed neu'n ysbytai cymunedol.

Y Wercws

Ond cyn cau pen y mwdwl ar y testun dan sylw, gwell fyddai dychwelyd at hanes cyffredinol y wercws. Soniwyd eisoes bod y rhaglen o adeiladu'r tlotai wedi mynd rhagddi'n egnïol o'r flwyddyn 1834 ymlaen. Fe fu eu hymddangosiad sydyn yn gyfrifol am newid gwedd y dirwedd. Rhwng y flwyddyn 1834 ac 1839, cafodd dim llai na 350 ohonyn nhw eu hadeiladu, ac erbyn y flwyddyn 1883, roedd cyfanswm o 554 o dlotai newydd yn weithredol yn y wlad hon. Roedd Sefydliad Prydeinig y Penseiri wedi cael ei sefydlu yn y flwyddyn 1834, a phedair blynedd yn ddiweddarach, fe gafodd ei enwi fel y Y Sefydliad Brenhinol. Daeth adeiladu tlotai yn gyfle i lawer o aelodau brwdfrydig a sefydledig proffesiwn y penseiri i ddangos eu sgiliau a dod yn enwog. Fe wnaeth un o'r penseiri hynny, ac un a fu â chysylltiad ag Esgobaeth Bangor fel Pensaer Eglwysig, enw iddo'i hun wrth ddylunio cynlluniau tlotai. Ef wnaeth y gwaith ad-drefnu diwethaf i Eglwys Gadeiriol Bangor, rhwng blynyddoedd 1865 a'i farwolaeth yn y flwyddyn 1878. Ei enw oedd Syr George Gilbert Scott, a bu ef yn gyfrifol am gynllunio dros fil o adeiladau newydd neu brosiectau atgyweirio megis Cadeirlan Bangor ac ymhlith y rheini roedd nifer fawr o dlotai, y rhai, oherwydd natur iselradd, yr anghofiwyd amdanynt. Ar ol dysgu ei grefft gyda dylunydd tlotai eithaf enwog o'r enw Kempthorne, fe fentrodd Scott ar ei ben ei hun ac yna ffurfiodd bartneriaeth gyda William Bonython Moffat.

Am ddegawd, gweithiodd Scott a Moffat yn egnïol ar gynhyrchu cynlluniau, ac yn y diwedd roeddynt yn gyfrifol am dros 50 ohonyn nhw. Gyda chymaint ohonyn nhw yn cael eu codi ar yr un pryd, bywyd yn byw yng nghyfrwy ei geffyl fu hanes Scott druan a'i bartner Moffat. Cymaint oedd prysurdeb Scott, fel ei fod ar un achlysur wedi anfon neges delegraff mewn anobaith i'w swyddfa, o un orsaf reilffordd daleithiol yn gofyn mewn gwirionedd: "Pam ydw i fan hyn?"

Roedd y tlotai yn cael eu gweinyddu'n lleol gan Fwrdd o Warcheidwaid, oedd fel arfer, wedi eu hethol o blith y dosbarth amaethyddol a masnachol. Roedd y dosbarth hwn ymhlith y boblogaeth wedi ennill llawer o hawliau yn sgil deddfau diwygio'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Am resymau amlwg, roedd y garfan hon o'r boblogaeth â'u diddordeb pennaf ar sut i sicrhau eu bod yn cadw llygad barcut ar wariant cyhoeddus, yn enwedig unrhyw gyllid oedd yn ymwneud â chynnal y tlodion. Roeddynt yn cynnal, yn unol â'r Ddeddf, gyfarfodydd rheolaidd bob pythefnos. Roedd yr adeiladau, er yn bensaernïol mawreddog, yn cael eu casáu gan bawb oedd yn ddigon anffodus o gael eu hunain yn gorfod mynd i fyw ynddyn nhw. Byddai gwrthwynebwyr y tlotai yn aml yn cyfeirio atyn nhw fel 'Bastilles', oedd, yn eironig, yn cyd-fynd â chynlluniau'r Comisiynwyr oedd wedi eu cyflwyno fel lleoedd i'w hosgoi, yn union fel yr oedden nhw wedi eu bwriadu iddynt fod yn y lle cyntaf. Eu pwrpas ar y dechrau oedd cael y tlodion yn ôl i'r arfer o weithio, fel eu bod yn gallu edrych ar ôl eu hunain a'u teuluoedd. Ond yn fynych mae delfrydau a damcaniaethau yn methu'r nôd wrth iddyn nhw gael eu gweithredu.

Y peth cyntaf annynol am y tlotai oedd y 'gwahaniad' oedd yn digwydd. Byddai pob unigolyn tlawd oedd yn ymgeisio am gymorth yn y wercws yn cael eu gosod mewn categori, a brofodd yn egwyddor gamweddus o'r cychwyn cyntaf. Roedd dynion yn cael eu gwahanu oddi wrth ferched (a chanlyniad uniongyrchol hynny oedd bod aelodau o deuluoedd hefyd yn cael eu gwahanu), a'r ddau grŵp i'w dosbarthu ymhellach i'r rhai oedd yn abl i weithio ar y naill law, a'r oedrannus a phlant ar y llaw arall.

Er bod tlodion diffuant yn gorfod troi at y wercws am gynhaliaeth eithiau, yn fuan dechreuodd y tlotai lenwi gyda charfannau o bobl fel cleifion, rhai oedd ag anhwylderau meddyliol, a llawer o grwydriaid. Mewn dogfennau o ardal Nefynsydd wedi goroesi roedd y preswylwyr yn y wercws yno ddim yn unig am eu bod ar y clwt, yn weddwon neu'n oedrannus, ond hefyd oherwydd eu bod yn fethedig, yn anabl, yn cael ffitiau epilepsi ac yn dioddef o benwendid. Dylid ychwanegu, fodd bynnag, bod peth gofal meddygol ar gael yn y tlotai un mlynedd ar bymtheg cyn i'r proffesiwn meddygol ennill statws proffesiynol iddo'i hun. Yng nghanol y beirniadu cyffredinol a fu ar y Comisiynwyr, dyma un cam y gellid rhoi rhywfaint o glod iddyn nhw, sef eu bod wedi mynnu bod swyddogion meddygol yn rhan anhepgorol o staff y tlotai. Fodd bynnag, disgrifiwyd y ddarpariaeth feddygol hon gan Sidney a Beatrice Webb, yn eu hastudiaeth o Ddeddf y Tlodion, fel rhywbeth pur ail-law, gyda'r gwaith o nyrsio yn cael ei wneud gan y preswylwyr benywaidd, a'r gwaith o ymgymryd â marwolaethau hefyd yn cael ei wneud gan ferched, y cyfan am 'dot o gin.'

Roedd amrywiaeth o swyddi y gallai'r tlodion abl a chryf ymgymryd â nhw'n feunyddiol yn y Wercws. Fodd bynnag, bodolaeth ddiflas iawn oedd yn wynebu'r tlodion oedrannus wrth iddyn nhw dreulio'r hyn oedd yn weddill o'u dyddiau. Yn y flwyddyn 1859, ysgrifennodd Emma Sheppard, oedd yn 'Ymwelydd ' â thloty'r geiriau hyn amdanyn nhw:

... 'yr edrychiad llesg - y gwacter pŵl - y diffyg diddordeb ym mhob peth a phob dim, ar wahân i drafod manylion dibwys am de neu griwel - tatws neu reis! Yr unig wrthrych o ddiddordeb iddyn nhw wrth edrych drwy'r ffenestr fyddai hers y plwyf yn paratoi i gymryd ymaith rai o'u cymdeithion blaenorol.'

Hanner canrif yn ddiweddarach, ysgrifennodd y nofelydd Rider Haggard, fel hyn am Wercws yn Nwyrain Lloegr:

'Y genethod druan, gyda'u plant siawns, a rheini'n ymgripio, â'u hwynebau budr, ar draws y llawr o briddfeini; yr hen bobl, hen wragedd yn gorweddian ar eu gwelyau yn rhy fregus i symud, neu'n cyrcydu o gwmpas y tân yn eu capiau . . . . Yr hen wŷr, â'u dwylo yn lympiau ac yn gnotiog o ganlyniad i ddegawdau o waith caled, eu cefnau'n wargam . . . . Yma o'r diwedd yn dâl am eu gwaith.'  

Ac fel gydag unrhyw gyfundrefn sefydledig, mae modd cael hyd i doreth o ddogfennau sy'n ymwneud â hanes gweinyddiaeth y tlotai, ond yn anaml iawn y deuir ar draws geiriau'r preswylwyr eu hunain ynddyn nhw. Allanolwyr sydd yn bennaf gyfrifol am y ddelwedd hanesyddol sydd wedi ei chreu o'r Wercws. Roedd honno un ai yn eu beirniadu am eu gerwinder, neu'n eu beirniadu am eu llacrwydd. Mae unrhyw ymgais i adlewyrchu bywyd y Wercws yn dueddol o fod yn anghyson. Gall yr hyn a ysgrifennodd ymwelwyr â'r sefydliadau hyn, a'r hyn a welon nhw ynddyn nhw, fod yn fodd i'n goleuo am y math o fywyd oedd yn wynebu'r rhai oedd yn byw ynddyn nhw. Dyma oedd gan Dickens, mewn ysgrif o'r enw '.A walk in the Workhouse'. a gyhoeddwyd ganddo yn y flwyddyn 1850, i'w ddweud am Ddydd Sul yng nghapel y wercws:

'Yn gyffredinol....reodd y wynebau'n ddigalon a diysbryd, a heb liw ynddynt. Roedd hen bobl o bob math yno. Rhai'n mwmian, gyda llygaid pwl, gyda sbectol, yn hurt, yn fyddar, yn gloff; ....yn crechwenu ar ddim, yn pendwmpian, yn cyrcydu ac yn gorwedd yn amhrefnus mewn corneli.' 	'

Mewn arolwg a wnaed gan Sefydliad Nuffield yn y flwyddyn 1944, cawn ddisgrifiad o fywyd mewn wercws a fu, ond bellach yn gartref i'r henoed:

'Fel arfer ceir yno ddiffyg diddordeb llwyr ym mhob dim. Mae'r preswylwyr yn tueddu eistedd o gwmpas y waliau, heb ddim i'w wneud, yn disgwyl am ddim ond am y pryd nesaf neu am amser gwely.'

Enghreifftiau o fywyd yn y wercws

Dyma Wercws Caernarfon, a adeiladwyd tua 1840. Mae'r adeilad yn dal i sefyll ger Ysbyty Eryri, Caernarfon; am flynyddoedd fe ddefnyddid fel ysbyty a chartref i'r anabl dan ddedfwriaeth yr 20g, dan yr enw "Sefydliad Bodfan"
Ychydig o gysuron a ganiateid i'r trigolion eu cael hyd yn oed fel anrhegion neu drwy elusen. Byddai hyn yn ychwanegu at ddiflastod eu bywyd a'r anogaeth fud a ddaeth yn ei sgil iddynt geisio mynd oddi yno. Sylwer ar y dyddiad - mor ddiweddar â 1914
Roedd disgyblaeth a threfn haearnaidd yn un o nodweddion y wercws - yn rhannol er mwyn gwneud y profiad mor annymunol fel y byddai'r rhai oedd yno eisiau ymadael a'r rhai oedd yn crafu byw yn ceisio osgoi mynd yno yn y lle cyntaf
Dyma gynllun nodweddiadol o wercws. Nid oedd Caernarfon na Phwllheli yn eithriadau yn hyn o beth
cedwid ward arbennig ar gyfer yr ymwelwyr un-nos hyn
Adysgrif o fwydlen Wercws Pwllheli ym 1840 - bu peth gwelliant dros y blynyddoedd - ond dim llawer


Cyfeiriadau

  1. Roedd yna becyn o ddogfennau wedi cael ei baratoi gan yr Archifdy ar gyfer ysgolion ar yr union destun, a rhai o'r dogfennau yn y pecyn hwnnw, fydd yn ffurfio cefndir i'r manylion a geir yma.
  2. Mae'r erthygl sy'n dilyn yn ei hanfod yn destun darlith gan y Parch. Ganon Tegid Roberts, gyda diolch iddo am ganiatáu ei atgynhyrchgu yma.
  3. Gwelir y gorchmynion hyn weithiau naill ai gyda phapurau'r plwyf neu ymysg cofnodion y Sesiwn Chwarter, ac fe'u geelwid yn orchmynion symud neu "removal orders"