Ffatri wlân Bontnewydd
Dangosir ffatri wlân ar lan Afon Gwyrfai ger Plas-y-Bryn, ychydig uwch i fyny'r afon na Melin Wyrfai yn Y Bontnewydd, ar fap Ordnans 1887, ac fe ymddengys o'r map fod dwr yn cael ei droi i'r ffatri er mwyn pŵeru'r peiriannau. Ychydig islaw'r afon mae eiddoo'r enw Dol-y-pandy, a dichon felly fod pandy hefyd ar un adeg a gymerai ei phŵer o rym y dŵr. Erbyn 1953, nodir ar fap Ordnans fod y ffatri wedi cau.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma