Simon Hobley

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:02, 1 Mai 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sais oedd Simon Hobley a anwyd ym Monk's Kirby, swydd Warwig, ym 1791. Roedd o'n fab i Joseph Hobley (ganwyd 1760) ac Ann ei wraig (Harford cyn priodi). Roedd ganddo 5 o frodyr a chwiorydd.[1]

Er bod ei nain yn ddynes grefyddol, yn Fedyddwraig ac wedyn yn aelod o Chyfundeb yr Iarlles Huntingdon, roedd ei dad (ei mab) yn ddyn meddw na roddodd bwys ar addysg crefyddol ei blant yn ôl pob sôn - er bod Simon wedi dod o dan ddylanwad y Parch Robert Hall, pregethwr grymus iawn, yng Nghaerlŷr.

Nid yw'n eglur sut y cyrhaeddodd Gaernarfon, ond yno y bu'n fwtler i berson plwyf Llanbeblig.

  1. Gwefan 'My heritage', [1] adalwyd 01.05.2018