Dinas y Pryf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:59, 19 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Dinas y Pryf yn safle amddifynnol ym mhlwyf Llanwnda, wrth y lôn sy'n rhedeg o gyfeiriad Rhedynogfelen i Felinwnda. Mae olion math o gytiau neu aneddiadau sy'n dyddio o Oes yr Haearn. Mae hefyd rhywfaint o ol mwnt o'r Canol Oesoedd yma hefyd. Mae ar ffurf sgwar wedi amgylchynu gan ffos a chlawdd, 168tr wrth 156tr. Ar y pedwar cornel y mae pentwr o bridd tua 4tr o uchder.[1]

Safle archaeolegol yng nghymuned Llanwnda, Gwynedd, yw Dinas y Pryf[1] (map OS: Dinas y Prif), lle ceir olion math o gytiau aneddog hynafol sy'n dyddio'n ôl i Oes yr Haearn; cyfeiriad grid SH464577. Enw arall ar y math hwn o heneb yw Cytiau'r Gwyddelod, sy'n enw camarweiniol. Ceir olion mwnt canoloesol ar y safle hefyd.[2]

Mae traddodiad lleol yn honni mai dyma oedd preswylfod dyn o'r enw Gibor, Goidel neu Wyddel, ond ni wyddys dim oll amdano fel arall.[3]

  1. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf ii, (Llundain,1960) tt.224-225
  2. Wicipedia [1]
  3. Comisiwn Henebion Cymru, Caernarvonshire, Cyf ii, (Llundain,1960) t.225