Trwyn Dinlle
Mae Trwyn Dinlle yn benrhyn tua dwy filltir ohyd rhwng y môr a'r Foryd. Yr oedd yn ardal dywodlyd gyda thwyni tywod yn gorchuddio llawer ohono, a thir pori a adferwyd o'r môr yn ystod y 19g trwy godi'r Cob, sef morglawdd ar yr ochr ddwyreiniol. Ar ddechrau'r ail Ryfel Byd, gwastadawyd ardal eang ac adeiladu Maes Awyr Caernarfon, a elwid i ddechrau'n RAF Llandwrog. Yma hefyd mae Fferm y Warren, gydaaa'r enw'n tystio i ddefnydd y trwyn tywodlyd hwn fel cwningar (man magu cwningod ar gyfer bwyd). Tua diwedd y 18g, cododd yr Arglwydd Newborough amddiffynfa Caer Belan gyda harbwr bychan, rhag ymosodiadau trwy Abermenai. O ben draw'r trwyn, cychwynnai Fferi Abermenai am Ynys Môn.
Afreai pendraw'r trwyn fod yn ddarn digyswllt o blwyf Llanwnda ond ers ail hanner y 20g, trosglwyddwyd y darn hwnnw i Landwrog, fel mae'r trwyn erbyn hyn yn gyfangwbl o fewn ffiniau plwyf a chymuned Llandwrog.
{{eginyn]]