Kate Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:51, 16 Ebrill 2018 gan 92.3.13.225 (sgwrs)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Llenor oedd Catherine ‘Kate’ Roberts (1891-1985).

Ganwyd yn Rhosgadfan ar Chwefror 13 1891 i Owen Owen Roberts a Catherine Roberts. Mae hi’n adnabyddus iawn fel un o brif lenorion Cymru, ac yn nodedig am ei harddull arbennig a'i gallu i ymafael a phynciau sensitif am fywyd dosbarth gweithiol Cymreig yn y 20g. Priododd a Morris T. Williams yn 1928, a bu'r ddau yn rhedeg Gwasg Gee yn Ninbych yn ystod y 1930au. Rhai o’i nofelau mwyaf adnabyddus yw Traed mewn Cyffion, Y Byw sy’n Cysgu a Te yn y Grug. Cyhoeddodd ei hunangofiant ‘Y Lon Wen’ yn 1960.[1] Derbyniodd doethuriaeth er anrhydedd gan Brifysgol Cymru yn 1950, a derbyniodd ‘Fedal y Cymmrodorion yn 1961. Bu farw ar Ebrill 14, 1985.[2]

"Cae'r Gors", Rhosgadfan.


Cyfeiriadau

{[cyfeiriadau}}

  1. Roberts, Kate "Y Lôn Wen" (Dinbych, 1960).
  2. [1] Y Bywgraffiadur Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.]