Pant-glas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:16, 13 Ebrill 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Pant-glas yn bentref bychan yn rhan uchaf plwyf Clynnog Fawr, ar y briffordd A487 rhwng Pen-y-groes a Phorthmadog. Dim ond rhyw ddwsin o dai sy'n yma heblaw am ystad fechan o dai a godwyd fel tai cyngor. Mae yma gapel (ac yr oedd un arall yn y gorffennol) a hefyd yr oedd gorsaf reilffordd yma.

Roedd ysgol yn y cyffiniau, sef Ysgol Genedlaethol Ynys-yr-arch, a elwid ar un adeg yn ysgol Pant-glas er ei bod ryw filltir o'r pentref. Bu siop a swyddfa bost ar ochr y lôn tan ychydig o flynyddoedd yn ôl.

Ar lôn gefn nid nepell o'r pentref mae olion Capel Tai Duon (MC) lle mae mynwent yr ardal.

Mae'r canwr opera, Syr Bryn Terfel, yn fab fferm ar gyrion y pentref.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma