Capel Garmon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:09, 29 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif murddyn a elwir yn Gapel Garmon tua chanllath o Ffynnon Garmon ar lethrau dwyreiniol Moel Smytho. Er i'r llecyn fod bellach ym mhlwyf Betws Garmon, arferai fod ym mhlwyf Llanwnda, ac eglwys Betws Garmon yn weddol agos yr ochr arall i ffin Uwchgwyfai. Dichon bod hyn yn awgrymu i'r cysylltiad ag enw Sant Garmon fynd yn ôl i gyfnod cyn sefydlogi ffiniau'r plwyfi, a ddigwyddodd, medd rhai, yn ystod y 13g.

Er nad oes sicrwydd bod yr adeilad wedi bod â diben crefyddol, mae'r enw traddodiadol a'r agosrwydd at ffynnon rinweddol os nad sanctaidd yn awgrymu defnydd o'r fath.

{eginyn}}

Cyfeiriadau