Capel Brynaerau (MC)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:17, 27 Mawrth 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Capel Methodistaidd rhwng Llanllyfni a Clynnog-fawr yw Capel Brynaerau MC.

Mae hanes yr achos yn ardal Clynnog-fawr yn gysylltiedig gyda’r achos yng Nghapel Brynaerau. Cyn codi’r capel yn 1805, credir i Fethodistiaid yr ardal addoli yn Ysgol Sul y Bedyddwyr ym Mhontllyfni cyn cael addoldy eu hunain.

Cysylltiad gyda Capeli eraill yr ardal

Pan adeiladwyd Capel Ebeneser yng Nghlynnog yn 1843, cysylltwyd Brynaerau a Bwlan a parhawyd hyn hyd at 1876 pan y symudwyd Bwlan ar ben ei hyn. Cysylltwyd Brynaerau yn hwyrach gyda Ebeneser, gyda Brynaerau yn cynnal oedfa’r prynhawn a’r hwyr a Ebeneser yn cynnal oedfa’r bore. Bu newid eto yn 1888, gydag uniad Capel Capel Uchaf â Brynaerau ac uniad Ebeneser a Seion.

Adeilad newydd

Addaswyd yr adeilad yn 1877, pan brynwyd llecyn o dir agos i’r capel fel claddfa gydag prydles o 99 mlynedd. Adeiladwyd darn arall ar yr adeilad yn 1879, ar ben gorllewinol y Capel, gyda cost o £550 a chafwyd mwy o waith atgyweirio yn 1896 am £160. Roedd yr addolwyr yn mynychu Capel y Bedyddwyr ym Mhontllyfni yn y cyfnod hwn[1].

Cyfeiriadau

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Hobley, W. Hanes Methodistiaeth Arfon, Dosbarth Clynnog (Cyfarfod Misol Arfon, 1921) t. 50-63