Capel Salem (W), Tŷ'nlôn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:39, 20 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Capel Salem yn un o achosion Wesleaidd cynharaf yng Ngogledd Cymru, gan fod cymdeithas o Wesleiaid wedi ei ffurfio ym mhlwyf Llandwrog tua 1810. Mae Capel Salem ei hun yn dyddio o 1856, ac fe'i adeiladwyd yn nhreflan Tŷ'nlôn a oedd, hyd yn oed y pryd hynny oddi ar y briffordd. Ceir llawer o gyfeiriadau at "Gapel Llandwrog" ymysg cofnodion cylchdaith y Wesleiaid; mae'r rhain yn cyfeirio at Gapel Tŷ'nlôn, yn hytrach na'r capel arall a sefydlwyd o fewn ffiniau'r plwyf, sef Capel Moriah (W), Tal-y-sarn.

Cafwyd prydles o ran o gae o'r enw Cae Llwm am 99 mlynedd ym 1855 oddi wrth John Parry, y gwr bonheddig a oedd yn erchen ar ystad fechan Collfryn, am rent o £2.4.0c y fl. Yr ymddirioedolwyr a oedd i ddal y brydles (a chodi'r capel oedd Thomas Edwards ac Edward Edwards, y ddau o Dŷ Hen; Owen Jones, Cae Glas; Richard Edwards, Plas; John Thomas, "Tyddyn Cupher" [Tyddyn Seiper]; John Roberts, Maen Coch; a Robert Roberts, Tan y Cefn, plwyf Llanwnda, ffermwyr; a William Roberts, Gwernafalau, ffermwr; John Humphreys, The Cottage, [Glynllifon], garddwr; a William Roberts o'r Lodge, garddwr, plwyf Llandwrog.[1]

Yng nghefn y capel y mae stabl a godwyd yn ddiweddarach ar gyfer ceffyl a ddeuai â phregethwr ar ei gefn i bregethu, ond dywedir na chafodd ond un ceffel ei stablo yno erioed gan ei bod wedi codi ar derfyn oes y ceffyl pan oedd trenau a moduron yn dechrau cymryd lle'r ceffyl.

Tua 1908, pan brydlesiwyd ychwaaneg o dir wrth ochr y capel oddi wrth Ystad Glynllifon, enwyd y canlynol fel ymddiriedolwyr y capel - sydd yn rhoi argraff o ddalgylch a natur yr aelodaeth y pryd hynny: William Roberts, Nursery Cottage, Glynllifon garddwr; Edward Roberts, Gwernafalau, ffarmwr; William Williams, The Lodge, Glynllifon, saer, plwyf Llandwrog: Griffith Griffith Jones, Ceunant, plwyf Llanrug, chwarelwr; Lewis Jones, Penygraig, Tal-y-sarn, labrwr; John William Roberts, Nursery Cottage, athro cerdd; John Jones, Tŷ hen, plwyf Llanwnda, labrwr; William Roberts, Cefn Coch, Llanwnda, pointsmon (ar reilffordd); John Williams, Rhostryfan, ffarmwr; Meyrick Jones, Dolgau, Llandwrog, saer maen: Griffith Evans, Pentre, Llanwnda, ffarmwr; Robert Hughes, Cartrefle, Y Groeslon, swyddog cymorthdaliadau; Robert Jones, Tŷ'nlôn, saer maen; Richard Williams, Fair View, Llanwnda, gof; Arthur John Parry, Pant y Rhedyn, Llanwnda, peiriannydd; Alfred Thorman, Y Groeslon, gof; Llewelyn Parry, Pant y Rhedyn, athro ysgol; William Edward Wakefield, Maencoch, Llanwnda, asiant yswiriant; John Cadwaladr Thomas, Tanycefn, Llanwnda, labrwr; John Williams, Tŷ'nlôn, labrwr; Peter William Jones, Tŷ Capel, Tŷ'nlôn, chwarelwr; John Hugh Williams, Bay View, Llanwnda, saer; a Robert Roberts, Belan, Llandwrog, gofalwr.[2]

Cynhaliwyd gwasanaeth dathlu 150 mlynedd o'r adeilad presennol yn 2006 yn ystod Cyfarfod Pregethu blynyddol y capel, pan bregethodd y Parch. Gwyn C. Thomas, Tal-y-sarn, gweinidog Wesle Pwllheli ar y pryd.[3] Roedd y cyfarfod pregethu yma'n hen draddodiad a barhaodd yma'n bur hwyr, tan oddeutu 2012, ar ddydd Iau yn ystod mis Mehefin. Arferai gynnwys pedwar pregeth, un ar nos Fercher a thair yn ystod ddydd Iau, gyda dau bregethwr gwâdd (y ddau bron yn ddi-ffael yn Wesleiaid) yn rhannu'r dyletswyddau. Bu'n arferol cael cynulleidfa o gapeli'r ardal ac o eglwysi Wesleiaidd eraill Arfon, a hyd y 21g bu'n arferol cael dros 50 yn y gynulleidfa.

Pan oedd system cylchdeithiau cryf mewn grym, rhan o Gylchdaith Caernarfon oedd Capel Salem.

Mae'r capel yn dal ar agor. gyda gwasanaeth bob pnawn Sul (2018). Tan efallai 1980 roedd dau wasanaeth bob dydd Sul, a chynhaliwyd ysgol Sul am gyfnod yn y 1980au cynnar, ar ôl bwlch o 10 mlynedd a mwy.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, XD2/7488
  2. Archifdy Caernarfon XD2/6687
  3. Y Gwyliedydd, rhif 142 (Awst-Medi 2006)