Maen Coch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:48, 23 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Casgliad o dai yw Maen Coch ar yr hen briffordd rhwng Ffingar (Llanwnda) a Dolydd. Yn wreiddiol dim ond un fferm, Cefn Coch, a oedd yma, ond rhwng 1840 a 1900 codwyd dau dŷ moel a dau fwthyn dan yr un to - y 'Maen Coch' gwreiddiol. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif codwyd dau bâr o dai sylweddol wedyn nes ffurfio cymuned fach. Ar draws y ffordd i Gefn Coch, ceir fferm hynafol Cefn Hendre, a elwid yn wreiddiol yn Cefn CilTyfu. Y tu hwnt i'r fferm yr oedd melin a wasanaethai'r ardal yn y Canol Oesoedd, sef Melin Cil Tyfu.

Ffynonellau