Cyfrannu at Cof y Cwmwd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:34, 12 Rhagfyr 2017 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Dyma sut mae cyfrannu at Cof y Cwmwd. Cofiwch hefyd fod yna botwm Cymorth ar ochr chwith y dudalen hon.

Ychwanegiadau a newidiadau

Mae croeso i unrhyw un gyfrannu ychwanegiadau/newidiadau:

  • Crëwch gyfrif (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes - nid oes angen unrhyw fanylion personol, mae'n cymryd tua 20 eiliad ac mae am ddim wrth gwrs!).
  • Wedyn cliciwch ar y tab 'Golygu'.

(Nid oes rhaid creu cyfrif i wneud golygiadau bychain.)

Creu erthygl newydd

Os ydych wedi mewngofnodi gan ddefnyddio enw eich cyfrif, cewch hefyd greu erthygl newydd neu eginyn (sef cychwyn erthygl newydd) ar unrhyw bwnc sydd heb fod yma eisoes, ar yr amod ei fod ar bwnc yn gysylltiedig ag Uwchgwyrfai (plwyfi Clynnog-fawr, Llanaelhaearn, Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda). Ond dalier sylw: er mwyn atal sbamwyr otomatig, ni fydd y system yn caniatáu i chi greu erthyglau newydd am 24 awr ar ôl i chi creu'ch cyfrif - ac mae'n syniad da fagu peth brofiad yn gyntaf trwy ychwanegu at neu gywiro erthyglau sy'n bod eisoes.

Mae'n hawdd creu erthygl newydd:

  • Mewngofnodwch i'ch cyfrif. (Crëwch eich cyfrif yn gyntaf os oes angen.) Arhoswch am 24 awr os ydych newydd gofrestru am y tro cyntaf. Fel arall, bwriwch ati...
  • Teipiwch deitl yr erthygl (sef enw gwrthrych yr erthygl) yn y bocs Chwilio ar frig y dudalen hafan hon.
  • Os cewch sgript coch, cliciwch arno ac mi fyddwch yn mynd at dudalen newydd y gallwch ddechrau ei llenwi - bydd y teitl yno eisoes yn disgwyl amdanoch! Angen syniadau? Gweler: Erthyglau sydd eu hangen, dewis pwnc ac wedyn ei roi yn y bocs Chwilio a dilyn y ddolen.

Safon eich Cymraeg

Cymraeg yw unig iaith Cof y Cwmwd. OND - peidiwch â phryderu am safon eich Cymraeg; bydd ein gweinyddwyr yn hapus i newid unrhyw gamgymeriadau ac ni fydd neb yn gwybod pwy ydych chi os dewiswch ffugenw fel eich enw mewngofnodi. Un o'n hamcanion yw annog defnydd o'r Gymraeg wrth i ni drafod ein hanes.

Canllawiau cyfrannu

Ewch i Cymorth am ragor o fanylion ar sut i gyfrannu erthygl neu newid testun, mewnosod cyfeiriadau at ffynonellau ac ati. Ond dyma rai canllawiau i'w cadw mewn cof:

Mae'r rheolau'n syml iawn:

  1. Cofiwch sicrhau fod gennych ganiatád perchennog unrhyw hawliau mewn deunydd fel lluniau neu gerddi cyn ei gynnwys
  2. Dylai pob erthygl fod yn berthnasol i hanes a diwylliant Uwchgwyrfai a'i bobl
  3. Mae croeso i chi newid gwallau teipio, camdreiglo ac ati, ond...
  4. Gwyliwch rhag dileu dim byd nes i chi fod yn sicr y dylid ei ddileu (camgymeriadau, ffeithiau yr ydych yn siwr eu bod yn anghywir, ac ati)
  5. Rhaid peidio â chynnwys manylion personol unigolion sy'n dal yn fyw (cyfeiriad, rhif ffôn, ac ati) heb eu caniatád
  6. Nodwch ffynhonnell eich gwybodaeth (llyfr, erthygl, ac ati). Edrychwch yn Cymorth i weld sut mae gwneud hyn
  7. Nodwch yn y blwch ar waelod y dudalen beth yw natur unrhyw gyfraniad neu newid
  8. Cofiwch fod yn gwrtais bob amser. DIM sylwadau personol na beirniadaeth ar gyfranwyr eraill os gwelwch yn dda - na dim iaith anweddus ychwaith!

Y print mân

Pwrpas Cof y Cwmwd, fel pob wici, yw hwyluso cyfnewid gwybodaeth yn rhad ac yn rhwydd. Fodd bynnag rhaid gwarchod eich deunydd rhag i bobl ei ddefnyddio'n annheg neu beidio â’i gydnabod. I’r perwyl hwn, gweithredir yn unol â'r amodau isod.

Mae cyfraniadau, golygiadau ac ychwanegiadau ar gyfer wici Cof y Cwmwd yn cael eu derbyn gennych ar y ddealltwriaeth bod pob cyfrannwr yn trosglwyddo hawliau Comin Creu yn eu deunydd i Ganolfan Hanes Uwchgwyrfai ar sail ‘rhannu’n gyfatebol’, sef CC BY SA4. Bydd y deunydd yn cael ei gyhoeddi ar wici Cof y Cwmwd dan drwydded anfasnachol a mwy cyfyng, sef CC BY NC, am gyfnod all barhau hyd at 30 Mehefin 2023. Mae hyn yn golygu y gall Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ganiatáu defnydd priodol gan drydydd parti yn unol ag amodau’r drwydded, ond ni bydd modd i’r cyhoedd ailddefnyddio nac atgynhyrchu’r deunydd at ddibenion masnachol o unrhyw fath heb ganiatád tan ar ôl y dyddiad hwnnw. Wedi hynny gallai’r drwydded gael ei hymestyn i drwydded CC BY SA4, ond hyd yn oed wedyn, bydd rhaid i unrhyw ddefnyddiwr gydnabod ffynhonnell y deunydd. Am fanylion llawn y trwyddedau y sonnir amdanynt, ewch at https://creativecommons.org/share-your-work/licensing-types-examples/.

Ni ddylid cyfrannu unrhyw ddeunydd at wici Cof y Cwmwd os nad chi a’i creodd heb i chi'n gyntaf sicrhau bod gennych yr hawl i wneud hynny (e.e. gan y sawl a dynnodd lun neu a ysgrifennodd rywbeth).

Ni ddylech gyfrannu unrhyw beth at wici Cof y Cwmwd oni fyddech yn hollol fodlon i’r deunydd gael ei ailddefnyddio neu ei atgynhyrchu (gyda’r gydnabyddiaeth briodol) mewn mannau eraill.

Er bydd gweinyddwyr y Cof yn ceisio osgoi unrhyw dorhawlfraint, anwireddau, enllib a/neu anlladrwydd, ni all Canolfan Hanes Uwchgwyrfai dderbyn cyfrifoldeb am yr hyn a ysgrifennir gan y sawl sy'n cyfrannu. Eich cyfrifoldeb chi felly yw gofalu fod pob dim a ychwanegir gennych yn gywir ac yn dderbyniol hyd y gwyddys.