Chwarel Dorothea

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:13, 3 Chwefror 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Dorothea yn Nhalysarn.

Roedd y chwarel hon yn un o'r safleoedd mwyaf llwyddiannus yng Ngwynedd yn ei chyfnod. Dorothea oedd un o'r prif gyflogwyr yn Nyffryn Nantlle hefyd, ac gellir deall ei phwysigrwydd ym mywyd bro Talysarn ar un cyfnod.

Agorwyd y chwarel ar lethr a arweiniai am Lyn Nantlle, ac roedd ar dir a berthynai i ystad Pant Du a oedd ym meddiant teulu'r Garnons. Gelwir y chwarel yn ei ddyddiau cynnar yn Cloddfa Turner, pan gymerodd William Turner, Parcia, Caernarfon a'i fab-yng-nghyfraith John Morgan feddiant o'r lle. Newidiodd enw'r chwarel i Dorothea yn fuan ar ol cyfnod Turner a Morgan, ac enwir y lle ar ol gwraig Richard Garnons. Y ddau dwll cyntaf a agorwyd yma oedd yr Hen Dwll a Twll y Weirglodd, a gwneuthwyd hynny pan roedd y chwarel o dan reolaeth Thomas Turner ac Owen Parry o Benygroes.

Roedd y chwarel yn cynhyrchu rhwng 5,000 a 6,000 tunnell o lechi pan yr oedd ar ei hanterth, ac yn cyflogi o gwmpas 200 o ddynion a bechgyn ifanc yr ardal. Mae Dorothea hefyd wedi newid dwylio nifer o weithiau yn ei chyfnod, gyda llawer yn dangos diddordeb a brwdfrydedd yn ei maint a'i photensial.

Roedd Dorothea yn weithredol tan 1970, pan roedd rhaid ei chau yn dilyn cwymp yn galw am lechi ar gyfer tai.

Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma