Ffatri Tryfan
Roedd Afon Llifon yn troi olwyn ddŵr Melin wlân Tryfan', neu (yn ôl y bobl leol) Ffatri Tryfan.Safai lle saif Craigside a Chludannedd heddiw (wrth y blwch post). Mae'r hen felin wedi'i thynnu i lawr ers dechrau tridegau'r 20g. Dywed J Geraint Jenkins yn ei lyfr The Welsh Woollen Industry bod melin wlân yno cyn 1815. Melin gardio ydoedd gyda thair ffram Arkwright a ddyfeisiwyd ym 1769 ac yn cael eu defnyddio yno erbyn 1826 yn lle'r tair olwyn a ddefnyddid gynt.
Yn ei ysgrif ar y Tryfan[1], dywed W Gilbert Williams ei fod yncredu bod Ffatri Tryfan yn mynd yn ôl i'r 18g, a'i chynnydd wedi cyd-ddigwydd â datblygiad y chwareli ar lechweddau Mynydd Cilgwyn. Dywed hefyd y gwelir cyfeiriad at rai o'r crefftwyr a weithiai yno o ganol y 18g ymlaen yn y Cofnodion Plwyf.
Cyfeiriadau
- ↑ Trafodion Hanes Sir Gaernarfon (cyf 2)