Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd)
I'w barhau
Roedd Hugh Hughes (1824-) a fagwyd yn Rhosgadfan yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa. Wedi ddo ymuno i'r Wladfa, mabwysiadodd gyfenw newydd, gan gael ei adnabod fel "Hugh Hughes Cadfan", yn null sawl un o arloeswyr y drefedigaeth honno.
Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng Rhostryfana Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - dim ond ychydig gaeau i ffwrdd.
Yn ôl rhestr fedydd Hugh Hughes, cafodd ei eni yng nghartref ei fam yn Nhrefdraeth, Môn[1] ond yn Llanwnda yr oedd y teulu'n byw. Cafodd eu hail blentyn, sef Jane, ei geni yng Nghae'r Odyn ym 1826. Roedd gan y ddau hyn naw neu ddeg o frodyr a chwiorydd iau. Roedd tad i dad Hugh Hughes yn byw yn Pen Gwrli - ei enw o oedd Hugh Lewis. Roedd ei wraig Jane yn ferch i Griffith Jones a Margaret Thomas o fferm Gaerwen, Llanwnda (Rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan).
Prentisiwyd Hugh yn saer coed a chododd weithdy iddo’i hun yng Nghaernarfon yn 1850. Ar gyfrifiad 1851 mae yna ŵr o’r enw Hughes Hughes, ‘Joiner’ 26 mlwydd oed wedi ei eni yn Nhrefdraeth, Ynys Môn, yn byw yn Patentship House, Llanbeblig, gydag ewythr, David Williams a aned yn Llangefni.[2] Pan oedd yn gweithio yng Nghaernarfon yn y 1850au dechreuodd ymgyrchu dros greu Gwladfa Gymreig. Symudodd i Lerpwl yn 1857, a daeth yn un o arweinwyr y mudiad gwladfaol yno. Yn 1861, traddododd ddarlith a gyhoeddwyd fel Llawlyfr y Wladfa Gymreig.
Teithiodd ef, ei wraig Elizabeth a nifer o blant i Batagonia gyda'r fintai gyntaf ar y Mimosa yn 1865, a dywedir mai ef oedd y cyntaf o deithwyr y Mimosa i roi ei droed ar ddaear Patagonia. Bu'n dal nifer o swyddi megis ustus heddwch yno, a phan fu farw cyhoeddodd Rhaglaw Tiriogaeth Genedlaethol Chubut bod dydd ei angladd i fod yn ddiwrnod o alar trwy'r dalaith.[3]
Roedd cysylltiad gan Jane, chwaer Hugh Cadfan, â'r Wladfa hefyd. Briododd â David Richards o Sir Gaer, yn Lerpwl a sefydlu Tŷ’r Cymry yn y ddinas honno, sef yn 35 Union Street, Lerpwl. Roedd Tŷ'r Cymry yn sefydliad Goruchwylwyr Ymfudo, siop de a choffi, ac yn cynnig ystafelloedd i aros. Yma y bu llawer o'r Cymry aros cyn hwylio ar y Mimosa i Batagonia.[4]