Hugh Hughes (Cadfan Gwynedd)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:26, 4 Tachwedd 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

I'w barhau

Roedd Hugh Hughes a fagwyd yn Rhosgadfan yn un o arloeswyr y symudiad i sefydlu trefedigaeth Gymreig a Chymraeg yn y Wladfa.

Roedd rhieni Hugh Hughes (Lewis Hughes ac Elinor) yn byw ym Mhengwrli (neu Ben Gwylwyr), ar yr allt rhwng Rhostryfana Rhosgadfan cyn iddynt symud i gartref y teulu, sef Cae'r Odyn - dim ond ychydig gaeau i ffwrdd.

Yn ôl rhestr fedydd Hugh Hughes, cafodd ei eni yng nghartref ei fam yn Nhrefdraeth, Môn ond yn Llanwnda yr oedd y teulu'n byw. Cafodd eu hail blentyn, sef Jane, ei geni yng Nghae'r Odyn ym 1826. Roedd tad i dad Hugh Hughes yn byw yn Pen Gwrli - ei enw o oedd Hugh Lewis. Roedd ei wraig Jane yn ferch i Griffith Jones a Margaret Thomas o fferm Gaerwen, Llanwnda (Rhwng Rhosgadfan a Rhostryfan)

Roedd cysylltiad gan Jane, chwaer Hugh Cadfan, â'r Wladfa hefyd. Briododd âDavid Richards o Sir Gaer, yn Lerpwl a sefydlu Tŷ’r Cymry yn y ddinas honno, sef yn 35 Union Street, Lerpwl. Roedd Tŷ'r Cymry yn sefydliad Goruchwylwyr Ymfudo, siop de a choffi, ac yn cynnig ystafelloedd i aros. Yma y bu llawer o'r Cymry aros cyn hwylio ar y Mimosa i Batagonia.[1]

Cyfeiriadau

  1. Gwybodaeth ysgrifenedig a gyfrannwyd gan J.B. Jones