Pennarth (fferm)
Fferm fawr yw Pennarth sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger Aberdesach, ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod cromlech ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar Pennarth (trefgordd).
Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennartrh wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd os nad yn fan uchelwr yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o Ystad Lleuar, ac yn eiddo i deulu George Twisleton[1], a etifeddodd ei diroedd yn sgil ei briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu Glynllifon.[2] Er i deulu Twisleton colli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu diddordeb yn nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III., wedi ail briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer.[3] Ysywaeth, aeth fynd yn fethdalwr, ac yun sgil hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu y ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Gwr o'r enw Thomas Hughes o Lanelwy a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2445, a hynny ym 1768[4]
Mae'r map degwm yn dangos fod y pedwar fferm wedi dal fel ystad fechan efo'u gilydd hyd at ddyddiau'r map degwm tua 1844, Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd y perchennog, a thenant Pennarth oedd un John Jones. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn ymestyn i ryw 151 o aceri.[5]
Yn coachhouse Pennarth y cynhelid cyfarfodydd Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46 y ceir ysgrif lawn amdani yn Cof y Cwmwd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma