Pennarth (fferm)
Fferm fawr yw Pennarth sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger Aberdesach, ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod cromlech ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabibogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar Pennarth (trefgordd).
Yn coachouse Pennarth y cynhelid cyfarfodydd Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46 y ceir ysgrif lawn amdani yn Cof y Cwmwd
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma