R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon)
Cerddor o Garmel oedd Richard Hughes Jones, a adweinid fel Pencerdd Llifon, ganed 1883. Mab ydoedd i Thomas Jones, postfeistr Carmel a masnachwr blawd, (a aned ym 1853) a'i wraig Catherine (a aned ym 1850 ym mhlwyf Clynnog Fawr). Wedi iddo gadael yr ysgol, fe'i gyflogwyd fel postmon.[1]
Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef Capel Carmel (MC), a bu'n arwain Côr Carmel. Roedd yn dal i fyw yn ei gartref, sef Swyddfa Bost Carmel ym 1909, pan fu'n annerch Cymdeithas y Ford Gron yng Ngharmel ar destun "Ieuan Gwyllt".[2]
Fe'i dychafwyd yn yr Orsedd ym 1908 ar ôl llwyddo yn yr arholiadau i bencerddiaid, gan dderbyn yr enw "Pencerdd Llifon" yn yr Orsedd.[3] Y flwyddyn gynt roedd wedi llwyddo yn yr arholiad Cerddor, gan ennill iddo fo'r enw "Alaw Arfon" fel aelod yr Orsedd.[4]
Priododd â'r gantores Lizzie Moelwyn Jones, a hanai o Dan-y-grisiau, Ffestiniog, ar ddechrau 1918. Roedd hi wedi symud i fyw yn Nyffryn Nantlle ychydig cyn hynny.[5]
Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae hi'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:
- PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.
Do, fe welais ar fy llythyr Dy lawsygrif, gyfaill llon, Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, Yn creu hiraeth dan fy mron 'Rwyt am ddyfod eto i ganu Y Nadolig, medda ti, Na, hen ffrindiau, y mae amser Wedi newid gyda ni.
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r Cor yn canu fel un llu, Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", A "Gwnaed concwest ar Galfaria," "Ffarwel iti, Gymru fad," Nes y byddai creigiau Cilgwyn Yn adseinio mewn mwynhad.
Canu'r nos, a chanu'r bore, Fuom gynt yng Nghymru wen, Ac fe genir eto yno Tra bo'r Wyddfa uwch ei phen Er i dywyll amgylchiadau Yrru'r plant i estron dir, Cofio'r gân, y mawl, a'r weddi, Ganddynt wneir am amser hir.
Ond gobeithiwn y daw dyddiau Difyr eto, megis cynt; Pan y gwelir meibion Gwalia Wedi dychwel ar eu hynt; Ac y ffu'r cymylau duon 'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, Pan y clywir cân a moliant Eto'n nghymoedd Cymru Wen.
- RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield[6]
Ar ôl diwedd y rhyfel, mae'n debyg iddo symud i Bwllheli, a hynny erbyn 1924, gan fod cofnod ohono'n byw yno pan enillodd côr Tan-y-grisiau dan ei arweiniad.[7]
Cyfeiriadau
- ↑ Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1901
- ↑ Yr Herald Cymraeg, 2.3.1909, t.6
- ↑ Yr Herald Cymraeg, 28.7.1908, t.5
- ↑ The Cardiff Times, 10.8.1907, t.2
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 9.1.1918, t.5; Y Darian, 6.12.1917, t.8; Yr Herald Cymraeg, 30.1.1917, t.8
- ↑ Y Dinesydd Cymreig, 23.12.1914, t.2
- ↑ Archwiliad Google; North Wales Live 10.9.2008, cyrchwyd 3.3.2025