Eglwys y Bryn
Eglwys y Bryn oedd yr enw a ddewisiwyd ar yr achos unedig pan ddaeth y ddau gapel o eiddo'r Methodistiaid Calfinaidd ar gyrrion Y Groeslon at ei gilydd. Unwyd yr aelodaeth, a sefydlwyd un set o swyddogion a blaenoriaid, ond cadwyd y ddau adeilad, sef Capel Bryn-rhos a Capel Bryn'rodyn (MC) fel mannau addoli, gyda'r gwasanaethau'n cael eu cynnal bob yr ail yn y dddau adeilad. Pan ddaeth yr achos i ben (gan uno'r swyddogol efo Capel y Groes (MC), Pen-y-groes), a hynny fis Gorffennaf 2018, fe gaewyd y ddau adeilad a'u gwerthu.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwybodaeth bersonol'